Trigonometreg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rheolau Syml Trig

Mae trigonometreg (o'r Roeg τρίγωνον "triongl" + μέτρον "mesur") yn gangen o fathemateg sy'n delio gyda thrionglau, yn enwedig trionglau ongl sgwâr. Mae trigonometreg yn delio gyda'r berthynas rhwng ochrau a'r onglau yn nhrionglau a'r ffwythiannau trigonometregol sy'n disgrifio'r perthnasau hynny.

Mae gan drigonometreg gymwysiadau ym mathemateg pur a mathemateg cymhwysiol, ac ystyrir fel angenrhaid yn nifer o ganghennau o wyddoniaeth a thechnoleg. Câi ei ddysgu yn ysgolion uwchradd fel naill ai cwrs ar wahân neu fel rhan o gwrs cyn-galciwlws. Gelwir trigonometreg yn "trig" yn anffurfiol.

Gall yr holl ffwythiannau trigonometregol ongl θ gael eu creu yn geometregol yn nhermau cylch unedol o amgylch O.
Y ffwythiannau sin(x) a cos(x) wedi'u graffio

[golygu] Hanes Trigonometreg

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Racine carrée bleue.svg Eginyn erthygl sydd uchod am fathemateg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill