Tri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Trysorau arbennig o briodoleddau rhyfeddol a gysylltir ag arwyr a brenhinoedd yr Hen Ogledd oedd Tri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain. Cedwir sawl fersiwn o'r testun Cymraeg Canol sy'n eu rhestru; un o'r cynharaf yw testun Llawysgrif Caerdydd 17.

Dyma'r Tri Thlws ar Ddeg:

  1. Dyrnwyn, cleddyf Rhydderch Hael; pe bai rhyfelwr o dras uchel yn ei thynnu o'r gwaun torrai'n fflam a redai ar ei hyd.
  2. Mwys (basged neu hamper) Gwyddno Garanhir; pe rhoddid bwyd i un dyn ynddo ceid bwyd i gant ohono.
  3. Corn Brân Galed, a ddiwallai bawb.
  4. Car (cerbyd rhyfel) Morgant Mwynfawr; pe bai rhywun yn mynd ynddi byddai'n ei gludo ar unwaith i ble bynnag y dymunai.
  5. Cebystr Clydno Eiddin; pe rhwymai Clydno y cebystr wrth droed y gwely byddai'r march a ddymunai yno yn y bore
  6. Cyllell Llawfrodedd Farchog; oedd yn gallu gwasanaethu 24 o ryfelwyr wrth y bwrdd ar yr un pryd.
  7. Pair Dyrnwch Gawr; ni ferwai gig ond i rywun dewr ond iddo ef rhoddid digonedd
  8. Hogalen Tudwal Tudclyd
  9. Pais (arfwisg) Padarn Beisrudd; medrai newid maint i ffitio pobl teilwng i'w gwisgo ond ni fyddai'n wneud hynny yn achos taeog.
  10. Grên a dysgl Rhygenydd Ysgolhaig; llestri digonedd.
  11. Gwyddbwyll Gwenddolau ap Ceidio; set gwyddbywll Geltaidd hud a lledrith.
  12. Llen (clogyn) Arthur yng Nghernyw; mantell hud a lledrith a wnai'r gwisgwr yn anweladwy
  13. Mantell Tegau Eurfron; rhoddai brawf o ddiweirdeb

Ychwanegwyd:

Maen (gem) Modrwy Eluned Ddedwydd; gem a modrwy hud y ceir eu hanes yn chwedl Iarlles y Ffynnon.

Yn ôl un fersiwn o'r testun enillodd Taliesin y Tlysau hyn "yn y Gogledd" (h.y. yr Hen Ogledd).

Ffynhonnell[golygu]

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, argraffiad newydd 1991), Atodiad III.

Gweler hefyd[golygu]