Tri Chopa Swydd Efrog

Oddi ar Wicipedia

Casgliad o dri chopa o'r enwau Pen y Ghent (694m), Ingleborough (723m), a Whernside (736m) yw'r Tri Chopa Swydd Efrog (Saesneg:Yorkshire Three Peaks).

Maen nhw'n ffurfio rhan o'r Pennines, ac mae Pen y Ghent ar y Pennine Way.

Ar gopa Whernside ceir mur, a dyma'r ffin rhwng Swydd Efrog a Chumbria.

Her y Tri Chopa[golygu | golygu cod]

Mae Her y Tri Chopa yn her boblogaidd i gerddwyr, lle mae'n rhaid cwblhau taith trwy'r tri chopa o fewn 12 awr neu lai. Hyd y daith mae tua 25 milltir, ond mae'n dibynnu ar ba lwybr y dilynwch. Mae'n rhaid dechrau ym mhentref Horton-in-Ribblesdale, a dychwelyd yno i orffen y daith. Mae llawer o bobl yn ei wneud er mwyn codi arian at elusen.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.