Trelluest

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
View across Penarth Moors toward Cardiff - geograph.org.uk - 1378102.jpg

Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw Trelluest (Saesneg: Grangetown). Mae'n un o ardaloedd mwyaf Caerdydd, ac mae'n arffinio ardaloedd Glan yr Afon, Treganna a Thre-Biwt. Mae Afon Taf yn troi ei ffordd drwy'r ardal. Gyferbyn ag ardal Bae Caerdydd, mae Trelluest wedi ennill o'r datblygiadau yno, gan gynnwys adeiladau newydd a gwasanaethau megis cysylltiadau trafnidiaeth gwell.

Roedd gan Drelluest boblogaeth o 14,367 mewn 6230 aelwyd yn ystod cyfrifiad 2001. Mae'n ardal amrywiol ac amlddiwylliannol, gyda phoblogaeth sylweddol o bobl o dras Somaliaidd, Asiaidd, a thras cymysg. Mae'n gartref i deml Hindŵ mwyaf Caerdydd,[1] ac amryw o fosgiau gan gynnwys mosg newydd Abu Bakkar.

Cyfeiriadau [golygu]

Dolenni Allanol [golygu]


Cymunedau Caerdydd

Caerau | Castell | Cathays | Coryton | Croes Cwrlwys | Cyncoed | Danescourt | Yr Eglwys Newydd | Gabalfa | Glan yr Afon | Llandaf | Llanedeyrn | Llaneirwg a Phentre Laneirwg | Llanisien | Llanrhymni | Llysfaen | Y Mynydd Bychan | Pentwyn | Pentyrch | Plasnewydd | Pontprennau | Radur a Threforgan | Rhiwbeina | Y Rhath | Sain Ffagan | Y Sblot | Tre-Biwt | Tredelerch | Treganna | Trelái | Trelluest | Tongwynlais | Trowbridge | Y Tyllgoed | Waunadda | Ystum Taf

Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato