Tregarth
Mae Tregarth yn bentref rhwng Bethesda a dinas Bangor yng Ngwynedd, gerllaw Afon Ogwen. Saif Chwarel y Penrhyn rhwng Tregarth a Bethesda, a thyfodd y pentref yn bennaf fel trigfan i'r chwarelwyr. O'r boblogaeth o tua 1,000, mae o gwmpas 70% yn siarad Cymraeg.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Yn ystod y streic fawr yn Chwarel y Penrhyn, dychwelodd rhai o'r gweithwyr i'r chwarel yn ystod y streic, ac ystyrid hwy yn "Fradwyr" gan y gweddill. Symudodd nifer o'r rhain o Fethesda i Dregarth, lle'r adeiladwyd tai ar eu cyfer gan Arglwydd Penrhyn. Gelwid un stryd yn Nhregarth yn "Stryd y Gynffon" am flynyddoedd wedyn.
Ar un adeg yr oedd dwy reilffordd yn rhedeg trwy'r pentref, sef cangen oedd yn rhedeg i Fethesda o'r brif lein LNWR, a gaewyd yn 1963, a Rheilffordd Chwarel y Penrhyn oedd yn cael ei defnyddio i gario llechi i Porth Penrhyn i'w hallforio, ac a gaewyd yn 1962. Agorwyd darn o drac yr hen reilffordd fel Lôn Las Ogwen.
Enwogion [golygu]
Ymhith enwogion sy'n enedigol o Dregarth a'r cyffiniau mae:
- Hugh Brython Hughes (1848-1913), awdur llyfrau plant Cymraeg.
- Syr Ifor Williams, un o ysgolheigion Cymreig mwyaf yr 20fed ganrif.
- Ifor Bowen Griffith
- T. Gwynn Jones, cerddor (nid y bardd).
- John Ogwen, actor a aned mewn gwirionedd yn Sling.
Dolenni allanol [golygu]
Gweler hefyd [golygu]
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr