Trefeilir

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Trefeilyr)

Llecyn yw Trefeilir (amrywiad, Trefeilyr) ym mhlwyf Trefdraeth ym Môn, yn ne-orllewin yr ynys. Mae'n gorwedd ychydig o filltiroedd i'r gogledd-ddwyrain o Aberffraw a Llangadwaladr ar y ffordd i Gerrigceinwen. Yn yr Oesoedd Canol yng Nghymru, roedd Trefeilyr yn "dref" (cymuned o gwmpas llys lleol). Roedd yn gorwedd yng nghwmwd Malltraeth, cantref Aberffraw. Heddiw mae ffermdy yn yr ardal yn dwyn yr enw ac efallai'n dynodi safle'r hen faenordy.

Cysylltir Trefeilir â'r bardd Meilyr Brydydd (fl. 1081-1137), pencerdd a ganai i'r brenin Gruffudd ap Cynan. Er na fedrwn fod yn gwbl sicr mai Meilyr Brydydd oedd deiliad tir Trefeilir, mae'r ffaith fod yna hefyd Drewalchmai (pentref Gwalchmai heddiw) a bod cofnodion o'r 14g yn nodi daliadau tir eraill yn enwau meibion ei fab Gwalchmai ap Meilyr yn awgrymu'n gryf fod Meilyr yn berchen arno ac efallai wedi ei eni yno.

Yn 1368 roedd Trefeilir yn perthyn i Ddafydd Fychan ap Dafydd Llwyd, un o noddwyr y bardd Sefnyn.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982)
  • J.E. Caerwyn Williams a Peredur I. Lynch (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion, Cyfres Beirdd y Tywysogion I (Caerdydd, 1994). ISBN 0708311873
  • Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Caernarfon, 1979). Pennod gan Tomos Roberts ar deulu Meilyr Brydydd.