Trefdraeth, Ynys Môn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Plwyf yng ngorllewin Môn, yn hen gwmwd Malltraeth, ac yn rhan o Ddeoniaeth Menai a Malltraeth yw Trefdraeth.

Llangwyfan yw eglwys y plwyf.

Mae'r enw Trefdraeth yn golygu "tref yn ymyl y traeth". Roedd yn lle pwysig gynt yn ystod Oes y Tywysogion am ei fod mor agos i Aberffraw a llys tywysogion Gwynedd. Yn yr Oesoedd Canol rhennid y dref rhwng Tref(draeth) Ddisteiniaid a Thref(draeth) Wastrodion, sef tir a berthynai i'r distain ("stiward" y llys) ac i'r gwastrod ("gofalwr y meirch" yn y llys).

Roedd Trefdraeth gynt yn rhan o gwmwd Malltraeth a oedd yn ei dro, gyda chwmwd Llifon, yn rhan o gantref Aberffraw (gweler Cantrefi a Chymydau Cymru).

Roedd gan Meilyr Brydydd a'i ddisgynyddion Gwalchmai ap Meilyr, Meilyr ap Gwalchmai, Einion ap Gwalchmai, ac efallai Elidir Sais yn ogystal, ddaliadau tir yn Nhrefdraeth.

Ganed Rowland Williams (Hwfa Môn), archdderwydd adnabyddus a bardd, yn Nhrefdraeth yn 1823.