Trebor Lloyd Evans

Oddi ar Wicipedia
Trebor Lloyd Evans
Ganwyd5 Chwefror 1909 Edit this on Wikidata
y Bala Edit this on Wikidata
Bu farw13 Gorffennaf 1979 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Awdur Cymraeg ar bynciau diwinyddol a Christnogol yn bennaf oedd Trebor Lloyd Evans (1909 - 1979). Roedd yn frodor o ardal Penllyn.

Ganed Trebor Lloyd Evans ger Y Bala ym 1909. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Bala-Bangor a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru. Daeth yn weinidog gyda'r Annibynwyr ym Mhen-y-groes, Arfon ac yna yn Nhreforus, Morgannwg.

Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar bynciau Cristnogol. Yn ogystal golygodd y gyfrol Diddordebau Llwyd o'r Bryn. Cyfieithodd Taith y Pererin gan John Bunyan i'r Gymraeg a detholiad o ddyddiaduron Francis Kilvert.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

  • Cymeriadau'r Beibl (2 gyfrol, 1955 a 1958)
  • Gwerth Gristnogol yr Iaith Gymraeg (1967)
  • Diddordebau Llwyd o'r Bryn (1966)