Trebor Edwards

Oddi ar Wicipedia
Trebor Edwards
Ganwyd1939 Edit this on Wikidata
Dinbych Edit this on Wikidata
Man preswylBetws Gwerful Goch Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amUn Dydd ar y Tro? Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata

Canwr tenor Cymreig yw Trebor Edwards (ganwyd 1939) a ddaeth yn un o artistiaid recordio mwyaf llwyddiannus Cymru yn yr 1980au.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd yn Ninbych. Yn blentyn roedd wrth ei fodd yn treulio amser ar fferm ei daid, Pen y Bryniau, Betws Gwerful Goch, ger Corwen. Yn 16 mlwydd oed perswadiodd ei fam a'i nain i roi tenantiaeth y fferm iddo. Ar ôl gadael ysgol cafodd fenthyciad gan y banc a daeth yn berchennog ar y ffarm .[1]

Gyrfa canu[golygu | golygu cod]

Cychwynnodd ei yrfa ym myd canu drwy gystadlu mewn eisteddfodau lleol. Yn nes ymlaen ymddangosodd ar raglenni radio a theledu yn cynnwys Cais am Gân, Trebor, Taro Tant a Noson Lawen. Cyhoeddwyd ei record gyntaf yn 1973 a thros y blynyddoedd mae wedi gwerthu dros 250,000 o recordiau gan ennill pum disg aur.[2] Yn ogystal â'i recordiau Cymraeg mae wedi cyhoeddi nifer o recordiau gyda chaneuon Saesneg. Bu'n llywydd Sioe Frenhinol Cymru yn 2008.[3]

Un o'i ganeuon enwocaf yw Un Dydd Ar Y Tro:

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n briod ag Ann ac mae ganddynt pedwar o blant.[1] Cyhoeddwyd ei hunangofiant Un Dydd ar y Tro? gan Y Lolfa yn 2008. Erbyn y 2000au roedd ei fab Erfyl yn rhedeg y fferm ac ei fab Gwyn yn rhedeg fferm Pen Craig Fawr gerllaw gyda'i wraig Lyn.[4][5]

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Teitl Dyddiad Manylion Label/Rhif Catalog
Ave Maria 1973 EP, Feinyl 7" Recordiau Tŷ Ar Y Graig, TAG 245
Duw Wyr 1974 EP, Feinyl 7" Recordiau Tŷ Ar Y Graig, TAG 249
Dyma fy Nghân 1976 Albwm, Feinyl LP Recordiau Sain, SAIN 1048D
Cân y Bugail 1978 Albwm, Feinyl LP Recordiau Sain, SAIN 1113D
Un Dydd ar y Tro 1980 Albwm, Feinyl LP Recordiau Sain, SAIN 1193D
Ychydig Hedd 1982 Albwm, Feinyl LP Recordiau Sain
Gwelaf dy Wên 1984 Albwm, Feinyl LP Recordiau Sain,
Diolch 1986 Albwm, Feinyl LP Recordiau Sain,
Edrych Ymlaen 1990 Albwm, Feinyl LP Recordiau Sain,
Ceidwad Byd 1993 Albwm, Feinyl LP + CD + MP3 Recordiau Sain, SCD 2061
Ffefrynnau Newydd 1998 Albwm, Feinyl LP + CD + MP3 Recordiau Sain, SCD 2183
Sicrwydd Bendigaid 2008 Albwm, CD + MP3 Recordiau Sain, SCD 2530
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Meet Trebor Edwards – the ‘star’ of the Royal Welsh. Farmers Weekly (2 Gorffennaf 2008). Adalwyd ar 4 Mawrth 2016.
  2.  Bywgraffiad Trebor Edwards. Sain.
  3. "Anrhydedd i Trebor" (in Welsh), BBC East Wales, Chwefror 2007.
  4.  Trebor Edwards a'i Wyrion. S4C. Adalwyd ar 20 Hydref 2019.
  5. EVER THE SHOWMAN , North Wales Live, 17 Gorffennaf 2008. Cyrchwyd ar 20 Hydref 2019.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.