Tre-biwt

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Trebiwt)
Tre-Biwt
Mathdosbarth, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.467°N 3.166°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000838 Edit this on Wikidata
Map

Ardal, cymuned a ward etholiadol ym mhrifddinas Cymru, Caerdydd, yw Tre-biwt, weithiau Tre Bute (Saesneg: Butetown). Mae'r sillafiad Cymraeg, ffonetig 'Biwt' yn mynd yn ôl i'r 19g.[1][2]

Tre-biwt yw ardal dociau Caerdydd, ac mae'n cynnwys Tiger Bay, fu'n destun y ffilm o'r un enw. Yn ne'r gymuned mae Bae Caerdydd. Erbyn hyn ceir llyn dŵr croyw mawr yma, a grewyd trwy godi morglawdd. Ceir Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru yn yr ardal yma.

Mae'n cynnwys cymunedau adnabyddus megis Sgwâr Loudoun a arferir bod yn ardal gyfoethog ond sydd wedi dioddef tlodi yn ystod yr 20g. Mae bellach wedi derbyn buddsoddiad gan gynnwys yn 2023 dechrau ar gwaith adeiladu Gorsaf reilffordd Tre-biwt.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Tre-biwt (pob oed) (10,125)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tre-biwt) (928)
  
9.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tre-biwt) (5136)
  
50.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Tre-biwt) (1,249)
  
23.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl enwog o Dre-biwt[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. twitter.com; trydariad gan yr Athro Dylan Foster Evans; adalwyd 5 Rhagfy r 2018.
  2. papuraunewydd.llyfrgell.cymru; Papurau Newydd Cymru Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 5 Rhagfyr 2018.
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder bod y canran hwn yn seiliedig ar y nifer sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]