Trương Tấn Sang
Oddi ar Wicipedia
Llywydd presenol Fietnam ydy Trương Tấn Sang (ganwyd 21 Ionawr, 1949). Cafodd ei ethol ar 25 Gorffennaf, 2011 ac mae hefyd yn uwch swyddog gyda'r Politburo. Ef oedd ysgrifennydd plaid gomiwnyddol Dinas Ho Chi Minh rhwng 1996 a 2000. Fel yn yr India, mae'r lywyddiaeth yn swydd seremonïol o fewn gwleidyddiaeth Fietnam gan mai'r prif weinidog sy'n rheoli materion y llywodraeth.