Townhill
Oddi ar Wicipedia
Cymuned ym mwrdeisdref sirol Abertawe yw Townhill. Adeiladwyd y rhan fwyaf o'r tai yma yn ystod yr 20fed ganrif. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 8,443.
Mae Townhill yn adral fryniog, ac mae rhai o'i strydoedd yn serth iawn. Ffurfir yr ardal gan fryn o garreg dywod ychydig i'r gogledd o ganol y ddinas, a'i gopa tua 175m uwch lefel y môr. Ceir ystad dai Townhill o amgylch y copa a'r gogledd-orllewin, ac ardal Mayhill ar y llechweddau i'r gogledd-ddwyrain.