Tour de l'Avenir
Ras seiclo ffordd yn Ffrainc yw'r Tour de l'Avenir (Cymraeg: Taith y Dyfodol), mae'n ras sawl cymal a sefydlwyd ym 1961,[1] i fod yn ras debyg i'r Tour de France ac ar lawer o'r un llwybr, ond ar gyfer reidwyr amatur ac annibynol. Cystadlodd y reidwyr dros dimau cenedlaethol i gychwyn. Trefnydd y ras am ddeg mlynedd oedd René de Latour.
Sefydlwyd y ras ym 1961 gan Jacques Marchand, golygydd L'Équipe,[2] er mwyn denu timau o'r Undeb Sofietaidd a gwledydd eraill gomiwnyddol nad oedd â reidwyr proffesiynol all gystadlu yn y Tour de France. Adnabyddwyd fel y Grand Prix de l'Avenir ym 1970, y Trophée Peugeot de l'Avenir o 1972 hyd 1979, a'r Tour de la Communauté Européenne o 1986 hyd 1990. Roedd yn gyfyngedig i reidwyd amatur o 1961 hyd 1980, cyn dod yn agored i reidwyr proffesiynol ym 1981. Ar ôl 1992, roedd yn agored i reidwyr oedd yn iau na 25 oed yn unig 25[2] ac erbyn hyn, dim ond reidwyr odan 23 oed all gystadlu.[3][4]
Enillodd Felice Gimondi, Joop Zoetemelk, Greg Lemond, Miguel Indurain a Laurent Fignon y Tour de l'Avenir[5] ac aethont ymlaen i ennill 12 Tour de France rhyngddynt. Ers 2007, cystadlir gan dimau cenedlaethol unwaith eto.
Enillwyr [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ http://www.aso.fr/evenements/cyclisme/fr/etap02.html
- ↑ 2.0 2.1 http://www.velo-club.net/article.php?sid=14807
- ↑ http://www.sports.fr/cmc/scanner/cyclisme/200836/tour-de-l-avenir-un-costaricain-premier-leader_195253.html
- ↑ http://www.sortir43.com/Tour-de-l-Avenir.html
- ↑ http://www.infocomte.com/index2.php?option=com_content&do_pdf=1&id=60