Tour de France 2014

Oddi ar Wicipedia
Tour de France 2014
Enghraifft o'r canlynolTour de France Edit this on Wikidata
Rhan oUCI World Tour 2014 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd5 Gorffennaf 2014 Edit this on Wikidata
Daeth i ben27 Gorffennaf 2014 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan2013 Tour de France Edit this on Wikidata
Olynwyd ganTour de France 2015 Edit this on Wikidata
Yn cynnwys2014 Tour de France, Stage 1, 2014 Tour de France, Stage 2, 2014 Tour de France, Stage 3, 2014 Tour de France, Stage 4, 2014 Tour de France, Stage 5, 2014 Tour de France, Stage 6, 2014 Tour de France, Stage 7, 2014 Tour de France, Stage 8, 2014 Tour de France, Stage 9, 2014 Tour de France, Stage 10, 2014 Tour de France, Stage 11, 2014 Tour de France, Stage 12, 2014 Tour de France, Stage 13, 2014 Tour de France, Stage 14, 2014 Tour de France, Stage 15, 2014 Tour de France, Stage 16, 2014 Tour de France, Stage 17, 2014 Tour de France, Stage 18, 2014 Tour de France, Stage 19, 2014 Tour de France, Stage 20, 2014 Tour de France, Stage 21 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.letour.fr/le-tour/2014/us/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o lwybr Tour de France 2014

Tour de France 2014 oedd y 101af ras yn hanes y Tour de France. Dechreuodd y ras yn Leeds, Lloegr ar 5 Gorffennaf 2014, a bydd cymal yn gorffen yn Llundain hefyd cyn i'r ras ddychwelyd i Ffrainc.[1][2][3]. Yr Eidalwr, Vincenzo Nibali, oedd yn fuddugol gan ennill y ras gyda mantais o dros saith munud.

Y Timau[golygu | golygu cod]

Mae disgwyl i pob un o'r 18 tîm ar Gylchdaith Broffesiynol yr UCI gymryd rhan yn y ras ac mae trefnwyr y ras hefyd wedi rhoi gwahoddiad i bum tîm sy'n rasio ar yr haen nesaf o feicio proffesiynol.

†: timau sydd wedi derbyn gwahoddiad

Cymalau[golygu | golygu cod]

Dyma'r pedwerydd tro i'r Tour de France ymweld â Lloegr yn dilyn ymweliadau yn 1974, 1994 a 2007. Mae 21 cymal gyda chyfanswm o 3656 km.

Rhestr Cymalau[4]
Cymal Dyddiad Cwrs Pellter Math Enillydd
1 5 Gorff LeedsHarrogate (Lloegr) 190.5 km (118 mi) Cymal gwastad Baner Yr Almaen Marcel Kittel
2 6 Gorff YorkSheffield (Lloegr) 201 km (125 mi) Cymal mynyddig canolig Baner Yr Eidal Vincenzo Nibali
3 7 Gorff CaergrawntLlundain (Lloegr) 155 km (96 mi) Cymal gwastad Baner Yr Almaen Marcel Kittel
4 8 Gorff Le Touquet-Paris-PlageLille[5] 163.5 km (102 mi) Cymal mynyddig canolig Baner Yr Almaen Marcel Kittel
5 9 Gorff Ypres (Gwlad Belg) – Arenberg Porte du Hainaut 155.5 km (97 mi) Cymal gwastad (gyda darn coblog) Baner Yr Iseldiroedd Lars Boom
6 10 Gorff ArrasReims 194 km (121 mi) Cymal gwastad Baner Yr Almaen André Greipel
7 11 Gorff ÉpernayNancy 234.5 km (146 mi) Cymal gwastad Baner Yr Eidal Matteo Trentin
8 12 Gorff TomblaineGérardmer La Mauselaine 161 km (100 mi) Cymal mynyddig canolig Baner Ffrainc Blel Kadri
9 13 Gorff GérardmerMulhouse 170 km (106 mi) Cymal mynyddig canolig Baner Yr Almaen Tony Martin
10 14 Gorff MulhouseLa Planche des Belles Filles 161.5 km (100 mi) Cymal mynyddig Baner Yr Eidal Vincenzo Nibali
15 Gorff Diwrnod gorffwys
11 16 Gorff BesançonOyonnax 187.5 km (117 mi) Cymal mynyddig canolig Baner Ffrainc Tony Gallopin
12 17 Gorff Bourg-en-BresseSaint-Étienne 185.5 km (115 mi) Cymal gwastad Baner Norwy Alexander Kristoff
13 18 Gorff Saint-ÉtienneChamrousse 197.5 km (123 mi) Cymal mynyddig Baner Yr Eidal Vincenzo Nibali
14 19 Gorff GrenobleRisoul 177 km (110 mi) Cymal mynyddig Baner Gwlad Pwyl Rafał Majka
15 20 Gorff TallardNîmes 222 km (138 mi) Cymal gwastad Baner Norwy Alexander Kristoff
21 Gorff Diwrnod gorffwys
16 22 Gorff CarcassonneBagnères-de-Luchon 237.5 km (148 mi) Cymal mynyddig Baner Awstralia Michael Rogers
17 23 Gorff Saint-GaudensSaint-Lary-Soulan Pla d’Adet 124.5 km (77 mi) Cymal mynyddig Baner Gwlad Pwyl Rafał Majka
18 24 Gorff PauHautacam 145.5 km (90 mi) Cymal mynyddig Baner Yr Eidal Vincenzo Nibali
19 25 Gorff Maubourguet Pays du Val d’AdourBergerac 208.5 km (130 mi) Cymal gwastad Baner Lithwania Ramūnas Navardauskas
20 26 Gorff BergeracPérigueux 54 km (34 mi) Ras unigol yn erbyn y cloc Baner Yr Almaen Tony Martin
21 27 Gorff Évry – Paris 137.5 km (85 mi) Cymal gwastad Baner Yr Almaen Marcel Kittel

Arweinwyr y dosbarthiadau[golygu | golygu cod]

Roedd pedwar prif ddosbarth yn y Tour de France 2014 gyda'r dosbarthiad cyffredinol (Ffrengig: classement général) y pwysicaf. Cyfrifir y dosarthiad cyffredinol trwy adio amser pob beiciwr ar ddiwedd pob cymal. Y beiciwr gyda'r cyfanswm isaf o amser yw arweinydd y ras ac sy'n cael yr hawl i wisgo'r Crys Melyn (Ffrengig: Maillot Jaune).

Yn y dosbarthiad pwyntiau, lle mae'r arweinydd yn gwisgo'r Crys Gwyrdd (Ffrengig: Maillot Vert) mae'r beicwyr yn casglu pwyntiau am orffen ymysg y goreuon ar ddiwedd cymal a hefyd mewn rasys gwibio sydd yn digwydd mewn manau penodol yn ystod pob cymal.

Ceir pwyntiau tuag at y Crys Dot Polca (Ffrengig: Maillot à Pois) am gyrraedd copâu'r gwahanol ddringfeydd ar bob cymal. Ceir gwahanol gategoriau o ddringfeydd gyda'r hors catégorie - y categori uchaf - yn werth mwy o bwyntiau na'r dringfeydd categori cyntaf, ail, trydydd neu bedwerydd.

Nodir y beiciwr ifanc gorau yn y ras gyda'r Crys Gwyn (Ffrengig: Maillot Blanc) sy'n cael ei roi i'r beiciwr uchaf yn y dosbarthiad cyffredinol sydd wedi eu geni cyn neu ar 1 Ionawr 1989.

Ar gyfer dosbarthiad tîm, cymerir amser y tri beiciwr cyntaf o bob tîm i orffen pob cymal a'r tîm sydd ar y blaen yw'r tîm sydd â'r cyfanswm amser lleiaf. Mae'r tîm ar y blaen yn cael yr hawl i wisgo rhifau gyda chefndir melyn ar eu gwisgoedd.

Mae rheithgor yn cyfarfod ar ôl pob cymal er mwyn pleidleisio am y beiciwr maent yn ei ystyried sydd wedi brwydro'n fwy nag unrhyw un arall yn ystod y dydd.

Cymal Enillydd Dosbarthiad cyffredinol

Maillot jaune
Dosbarthiad Pwyntiau

Maillot vert
Brenin y Mynyddoedd

Maillot à pois rouges
Reidiwr Ifanc

Maillot blanc
Dosbarthiad Tîm

Classement par équipe
Gwobr Brwydrol

Prix de combativité
1 Marcel Kittel Marcel Kittel Marcel Kittel Jens Voigt Peter Sagan Team Sky Jens Voigt
2 Vincenzo Nibali Vincenzo Nibali Peter Sagan Cyril Lemoine Blel Kadri
3 Marcel Kittel Jan Bárta
4 Marcel Kittel Thomas Voeckler
5 Lars Boom Astana Lieuwe Westra
6 André Greipel Luis Ángel Maté
7 Matteo Trentin Martin Elmiger
8 Blel Kadri Blel Kadri Michał Kwiatkowski Blel Kadri
9 Tony Martin Tony Gallopin Tony Martin Tony Martin
10 Vincenzo Nibali Vincenzo Nibali Joaquim Rodríguez Romain Bardet Ag2r-La Mondiale Tony Martin
11 Tony Gallopin Nicolas Roche
12 Alexander Kristoff Simon Clarke
13 Vincenzo Nibali Vincenzo Nibali Alessandro De Marchi
14 Rafał Majka Joaquim Rodríguez Alessandro De Marchi
15 Alexander Kristoff Martin Elmiger
16 Michael Rogers Rafał Majka Thibaut Pinot Cyril Gautier
17 Rafał Majka Romain Bardet
18 Vincenzo Nibali Mikel Nieve
19 Ramūnas Navardauskas Tom-Jelter Slagter
20 Tony Martin Dim Gwobr
21 Marcel Kittel
Terfynol Vincenzo Nibali Peter Sagan Rafał Majka Thibaut Pinot Ag2r-La Mondiale Alessandro De Marchi
Nodiadau
  • Ar Gymal 2, Bryan Coquard, oedd yn drydydd yn nosbarth y pwyntiau, oedd yn gwisgo'r Maillot vert, gan fod Marcel Kittel (yn y safle cyntaf) yn gwisgo'r Maillot jaune fel arweinydd y ras a Peter Sagan (yn yr ail safle) yn gwisgo'r Maillot blanc fel arweinydd dosbarth y beicwyr ifanc.

Safleoedd[golygu | golygu cod]

Eglurhad
  Crys melyn   Dynodi arweinydd y Dosbarthiad cyffredinol   Crys dot polca   Dynodi arweinydd Brenin y mynyddoedd
  Crys gwyrdd   Dynodi arweinydd Dosbarthiad y pwyntiau   White jersey   Dynodi arweinydd dosbarthiad y reidiwr ifanc
  Crys gyda rhifau â chefndir melyn.   Dynodi arweinydd Dosbarthiad tîm

Dosbarthiad cyffredinol[golygu | golygu cod]

Beiciwr Tîm Amser
1 Baner Yr Eidal Vincenzo Nibali Crys melyn Astana 89a 59' 06"
2 Baner Ffrainc Jean Péraud Ag2r-La Mondiale + 7'37"
3 Baner Ffrainc Thibaut Pinot Crys gwyn FDJ.fr + 8' 15"
4 Baner Sbaen Alejandro Valverde Movistar Team + 9' 40"
5 Baner Unol Daleithiau America Tejay van Garderen BMC Racing Team + 11' 24"
6 Baner Ffrainc Romain Bardet Ag2r-La Mondiale + 11' 26"
7 Baner Gweriniaeth Tsiec Leopold König Team NetApp-Endura + 14' 32"
8 Baner Sbaen Haimar Zubeldia Trek Factory Racing + 17' 57"
9 Baner Yr Iseldiroedd Laurens ten Dam Belkin Pro Cycling + 18' 12"
10 Baner Yr Iseldiroedd Bauke Mollema Belkin Pro Cycling + 21' 15"

Dosbarthiad pwyntiau[golygu | golygu cod]

Beiciwr Tîm Pwyntiau
1 Baner Slofacia Peter Sagan Crys gwyrdd Cannondale 431
2 Baner Norwy Alexander Kristoff Team Katusha 282
3 Baner Ffrainc Bryan Coquard Team Europcar 271
4 Baner Yr Almaen Marcel Kittel Giant-Shimano 222
5 Baner Awstralia Mark Renshaw Omega Pharma-Quick Step 211

Brenin y Mynyddoedd[golygu | golygu cod]

Beiciwr Tîm Pwyntiau
1 Baner Gwlad Pwyl Rafał Majka Crys Dot Polca Team Tinkoff-Saxo 181
2 Baner Yr Eidal Vincenzo Nibali Crys melyn Astana 168
3 Baner Sbaen Joaquim Rodriguez Team Katusha 112
4 Baner Ffrainc Thibaut Pinot Crys gwyn FDJ.fr 89
5 Baner Ffrainc Jean Péraud Ag2r-La Mondiale 85

Beiciwr ifanc[golygu | golygu cod]

Beiciwr Tîm Amser
1 Baner Ffrainc Thibaut Pinot Crys gwyn FDJ.fr 90a 07' 21"
2 Baner Ffrainc Romain Bardet Ag2r-La Mondiale + 3' 11"
3 Baner Gwlad Pwyl Michał Kwiatkowski Omega Pharma-Quick Step + 1a 13' 38"
4 Baner Yr Iseldiroedd Tom Dumoulin Giant-Shimano + 1a 39' 45"
5 Baner Sbaen Jon Izagirre Movistar Team + 38' 07"

Dosbarthiad timau[golygu | golygu cod]

Safle Tîm Amser
1 Ag2r-La Mondiale 270a 27' 02″
2 Belkin Pro Cycling + 34' 46"
3 Movistar Team + 1a 6' 10"
4 BMC Racing Team + 1a 07' 51"
5 Team Europcar + 1a 34' 57"
5 BMC Racing Team + 21' 20"

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Tour de France: Yorkshire to host start of 2014 race". 2012-12-14. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Yorkshire 2014 Grand Départ, London to host a stage - Tour de France 2013".
  3. "Tour de France 2014: Yorkshire, Olympic Park, Mall feature". 2013-1-17. Unknown parameter |published= ignored (help); Check date values in: |date= (help)
  4. "2014 Route". Le Tour. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-06. Cyrchwyd 3 Gorff 2014. Check date values in: |accessdate= (help)
  5. Er mai Le Touquet-Paris-PlageLille ydy enw'r cymal. Bydd y llinell derfyn yn Villeneuve-d'Ascq.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

1903 · 1904 · 1905 · 1906 · 1907 · 1908 · 1909 · 1910 · 1911 · 1912 · 1913 · 1914
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919 · 1920 · 1921 · 1922 · 1923 · 1924 · 1925 · 1926 · 1927 · 1928 · 1929 ·
1930 · 1931 · 1932 · 1933 · 1934 · 1935 · 1936 · 1937 · 1938 · 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947 · 1948 · 1949 · 1950 · 1951 · 1952 · 1953 · 1954 · 1955 · 1956 · 1957 · 1958 · 1959 · 1960 · 1961 · 1962 · 1963 · 1964 · 1965 · 1966 · 1967 · 1968 · 1969 · 1970 · 1971 · 1972 · 1973 · 1974 · 1975 · 1976 · 1977 · 1978 · 1979 · 1980 · 1981 · 1982 · 1983 · 1984 · 1985 · 1986 · 1987 · 1988 · 1989 · 1990 · 1991 · 1992 · 1993 · 1994 · 1995 · 1996 · 1997 · 1998 · 1999 · 2000 · 2001 · 2002 · 2003 · 2004 · 2005 · 2006 · 2007 · 2008 · 2009 · 2010 · 2011 · 2012 · 2013 · 2014 · 2015