Tour de France 2012

Oddi ar Wicipedia
Tour de France 2012
Enghraifft o'r canlynolTour de France Edit this on Wikidata
Math2.UWT Edit this on Wikidata
Rhan oUCI World Tour 2012 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd30 Mehefin 2012 Edit this on Wikidata
Daeth i ben22 Gorffennaf 2012 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganTour de France 2011 Edit this on Wikidata
Olynwyd gan2013 Tour de France Edit this on Wikidata
Yn cynnwys2012 Tour de France, Prologue, 2012 Tour de France, Stage 1, 2012 Tour de France, Stage 2, 2012 Tour de France, Stage 3, 2012 Tour de France, Stage 4, 2012 Tour de France, Stage 5, 2012 Tour de France, Stage 6, 2012 Tour de France, Stage 7, 2012 Tour de France, Stage 8, 2012 Tour de France, Stage 9, 2012 Tour de France, Stage 10, 2012 Tour de France, Stage 11, 2012 Tour de France, Stage 12, 2012 Tour de France, Stage 13, 2012 Tour de France, Stage 14, 2012 Tour de France, Stage 15, 2012 Tour de France, Stage 16, 2012 Tour de France, Stage 17, 2012 Tour de France, Stage 18, 2012 Tour de France, Stage 19, 2012 Tour de France, Stage 20 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.letour.fr/indexTDF_us.html Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o lwybr Tour de France 2012

Tour de France 2012 oedd 99fed ras Tour de France. Cychwynnodd ar 30 Mehefin 2012 gyda chymal cyntaf yn Liège, Gwlad Belg a gorffen ar y Champs-Élysées ym Mharis ar 22 Gorffennaf. Ymwelodd y Tour â'r Swistir y flwyddyn hon yn ogystal.

Cafodd y llwybr ei gyhoeddi ar gam gan yr ASO ar eu gwefan ar 10 Hydref 2011.[1] Cadarnhaodd yr ASO y llwybr yn y cyflwyniad swyddogol ar 18 Hydref.[2]

Roedd y llwybr yn cynnwys 101.1 km a gwblhawyd ar ffurf treial amser[3] ac ond tri chymal yn gorffen i fyny allt: La Planche des Belles Filles (cymal 7), La Toussuire - Les Sybelles (cymal 11) a Peyragudes (cymal 17).

Ymwelwyd â'r Col du Grand Colombier am y tro cyntaf yn hanes y Tour de France. Cafodd yr esgyniad ei ddefnyddio'n gynharach yn y Critérium du Dauphiné, Tour de l'Avenir ac yn gyson yn y Tour de l'Ain. Esgynnwyd hefyd mynyddoedd cyfarwydd y Col de la Madeleine a'r Col de la Croix de Fer (y ddwy yn Hors catégorie) wrth i'r ras deithio drwy'r Alpau. Ar y daith drwy'r Pyreneau, esgynnwyd y Col de Tourmalet, Col d'Aubisque, Col d'Aspin ar Col de Peyresourde; a phob un o'r pedwar yn ystod cymal 16. Roedd cyfanswm o 25 esgyniad yng nghategori 1, 2, a HC yn cyfrif ar gyfer pwyntiau yng nghystadleuaeth brenin y mynyddoedd.

Timau[golygu | golygu cod]

Roedd gan pob un o 18 o dimau ProTeam yr UCI yr hawl, ac roedd yn ofynnol iddynt, gymryd rhan yn y ras. Cafodd pedwar tîm UCI Professional Continental eu gwahodd yn ogystal, un Iseldiraidd a tair Ffrengig.[4]

  • Ag2r-La Mondiale
  • Cofidis†
  • Lampre-ISD
  • Orica-GreenEDGE
  • Saur-Sojasun†
  • Team Sky
  • Argos-Shimano†
  • Euskaltel-Euskadi
  • Liquigas-Cannondale
  • Omega Pharma-Quick Step
  • Team Europcar†
  • Vacansoleil-DCM
  • Astana
  • FDJ-BigMat
  • Lotto-Belisol
  • Rabobank
  • Team Katusha
  • BMC Racing Team
  • Garmin-Sharp
  • Movistar Team
  • RadioShack-Nissan
  • Team Saxo Bank-Tinkoff Bank

†: Timau proffesiynol cyfandirol a wahoddwyd

Y ffefrynnau cyn y ras[golygu | golygu cod]

Roedd Cadel Evans am amddiffyn ei deitl fel enillydd y Tour y flwyddyn gynt. Nid oedd Andy Schleck, enillydd 2010 (wedi i Alberto Contador gael ei ddi-gymhwyso am ddefnyddio cyffuriau), a ddaeth yn ail yn 2011, yn gallu cychwyn y Tour wedi iddo dorri ei asgwrn sacraidd yn ei belfis yn y Critérium du Dauphiné.[5] Ni fyddai cyn enillydd 2007, Alberto Contador, a ddi-gymhwyswyd wedi 2010, yn cymryd rhan oherwydd ei fod yn dal wedi ei wahardd rhag cystadlu ar y pryd.

Roedd cyn-enillwyr eraill Grand Tour a gychwynnodd y Tour de France yn 2012 yn cynnwys: Denis Menchov (2009 Giro d'Italia a 2005 a Vuelta a España 2007), Alexander Vinokourov (Vuelta a Espana 2006), Alejandro Valverde (Vuelta a España 2009), Vincenzo Nibali (Vuelta a España 2010), Juan José Cobo (Vuelta a España 2011), Ivan Basso (Giro d'Italia 2006 a Giro d'Italia 2010), Michele Scarponi (Giro d'Italia 2011) a Ryder Hesjedal (Giro d'Italia 2012).[6][7][8]

Yn ôl nifer y feirniaid, y prif ffefryn oedd y reidiwr Prydeinig Bradley Wiggins.[9][10] Roedd Wiggins, a orffennodd yn bedwerydd yn 2009, ac yn drydydd yn Vuelta a España 2011, wedi dangos ei gyflwr yn dda drwy gydol 2012, gan ennill rasus cymalog nodweddiadol Paris-Nice, Tour de Romandie a'r Critérium du Dauphiné. Cysidrwyd y cyn-reidiwr trac i fod yn un o dreialwyr amser gorau'r peleton, ac roedd y cyfanswm uchel o gilomedrau ar ffurf treialon amser yn Tour 2012 yn fantais iddo.

Canlyniad[golygu | golygu cod]

Enillodd Bradley Wiggins (Team Sky) ddosbarthiad cyffredinol y ras, 3' 21" yn glir o'i gyd-aelod tîm Chris Froome. Daeth y ddau yn Brydeinwyr cyntaf erioed i orffen yn nhri safle uchaf y ras ers sefydliad y ras 109 mlynedd ynghynt. Gwisgwyd y crys melyn gan Fabian Cancellara (RadioShack-Nissan) o'r Swistir, a enillodd y prologue.[11] Cipiodd Wiggins, a ddaeth yn ail yn y prologue, y crys melyn ar gymal 7, y cymal mynyddig cyntaf, cymal a enillwyd gan Froome,[12] a deliodd ar y safle drwy gydol gweddill y ras, gan ennill y ddau dreial amser hir, a heb golli unrhyw amser i'w brif wrthwynebwyr yn y mynyddoedd. Daeth Froome yn ail yn y ddau dreial amser, ac roedd ochr yn ochr, neu ychydig o flaen Wiggins yn y cymalau mynyddig. Yr Eidalwr Vincenzo Nibali (Liquigas-Cannondale) a orffennodd yn y drydydd safle, yr unig reidiwr i gadw fyny gyda'r ddau yn gyson yn y mynyddoedd.

Enillwyd y crys gwyrdd am y dosbarthiad bwyntiau gan gyd-aelod tîm Nibali, y Slofaciwr Peter Sagan. Enillodd Sagan dri cymal, a bu'n ail neu'n drydydd mewn pedwar cymal arall. Enillwyd dau gymal hefyd gan y sbrintiwr Almaenig André Greipel (Lotto-Belisol), a phencampwr y byd Mark Cavendish, Prydeiniwr arall ar Team Sky, ond roeddent yn llai cyson yn sbrintiau eraill y ras. Thomas Voeckler, y Ffrancwr ar Team Europcar, a gipiodd dosbarthiad Brenin y Mynyddoedd, wedi iddo gipio dau gymal mynyddig a bod y cyntaf i groesi copa saith mynydd yn olynol. Yr Americanwr Tejay van Garderen (BMC Racing Team), a ddaeth yn bumed yn y dosbarthiad cyffredinol, a enillodd y crys gwyn fel y reidiwr ifanc gorau. Cipiodd RadioShack-Nissan y dosbarthiad timau, a gwobrwywyd Chris Anker Sørensen fel y reidiwr mwyaf brwydrol.

Cymalau[golygu | golygu cod]

Cymal Dyddiad Dechrau – Gorffen Pellter Math Enillydd
P 30 Mehefin LiègeLiège 6.4 km Treial amser unigol Baner Y Swistir Fabian Cancellara
1 1 Gorffennaf LiègeSerain 198 km Cymal gwastad Baner Slofacia Peter Sagan
2 2 Gorffennaf ViséTournai 207.5 km Cymal gwastad Baner Prydain Fawr Mark Cavendish
3 3 Gorffennaf OrchiesBoulogne-sur-Mer 197 km Cymal mynyddig canolig Baner Slofacia Peter Sagan
4 4 Gorffennaf AbbevilleRouen 214.5 km Cymal gwastad Baner Yr Almaen André Greipel
5 5 Gorffennaf RouenSaint-Quentin 196.5 km Cymal gwastad Baner Yr Almaen André Greipel
6 6 Gorffennaf ÉpernayMetz 207.5 km Cymal gwastad Baner Slofacia Peter Sagan
7 7 Gorffennaf TomblaineLa Planche des Belles Filles 199 km Cymal mynyddig canolig Baner Prydain Fawr Chris Froome
8 8 Gorffennaf BelfortPorrentruy 157.5 km Cymal mynyddig canolig Baner Ffrainc Thibaut Pinot
9 9 Gorffennaf Arc-et-SenansBesançon 41.5 Treial amser unigol Baner Prydain Fawr Bradley Wiggins
10 Gorffennaf Diwrnod gorffwys
10 11 Gorffennaf MâconBellegarde-sur-Valserine 195.5 km Cymal mynyddig Baner Ffrainc Thomas Voeckler
11 12 Gorffennaf AlbertvilleLa Toussuire/Les Sybelles 148 km Cymal mynyddig Baner Ffrainc Pierre Rolland
12 13 Gorffennaf Saint-Jean-de-MaurienneAnnonay/Davézieux 226 km Cymal mynyddig canolig Baner Prydain Fawr David Millar
13 14 Gorffennaf Saint-Paul-Trois-ChâteauxCap d'Agde 217 km Cymal gwastad Baner Yr Almaen André Greipel
14 15 Gorffennaf LimouxFoix 191 km Cymal mynyddig Baner Sbaen Luis León Sánchez
15 16 Gorffennaf SamatanPau 158.5 km Cymal mynyddig Baner Ffrainc Pierrick Fedrigo
17 Gorffennaf Diwrnod gorffwys
16 18 Gorffennaf PauBagnères-de-Luchon 197 km Cymal mynyddig Baner Ffrainc Thomas Voeckler
17 19 Gorffennaf Bagnères-de-LuchonPeyragudes 143.5 km Cymal mynyddig Baner Sbaen Alejandro Valverde
18 20 Gorffennaf BlagnacBrive-la-Gaillarde 222.5 km Cymal gwastad Baner Prydain Fawr Mark Cavendish
19 21 Gorffennaf BonnevalChartres 53.5 km Treial amser unigol Baner Prydain Fawr Bradley Wiggins
20 22 Gorffennaf Rambouillet – Paris (Champs-Élysées) 120 km Cymal gwastad Baner Prydain Fawr Mark Cavendish

Arweinwyr y dosbarthiadau[golygu | golygu cod]

Cymal Enillydd Dosbarthiad cyffredinol

Maillot jaune
Dosbarthiad Pwyntiau

Maillot vert
Brenin y Mynyddoedd

Maillot à pois rouges
Reidiwr Ifanc

Maillot blanc
Dosbarthiad Tîm

Classement par équipe
Gwobr Brwydrol

Prix de combativité
P Fabian Cancellara Fabian Cancellara Philippe Gilbert dim gwobr Tejay van Garderen Team Sky dim gwobr
1 Peter Sagan Michael Mørkøv Nicolas Edet
2 Mark Cavendish Peter Sagan Anthony Roux
3 Peter Sagan Michael Mørkøv
4 André Greipel Yukiya Arashiro
5 André Greipel Matthieu Ladagnous
6 Peter Sagan David Zabriskie
7 Chris Froome Bradley Wiggins Chris Froome Rein Taaramäe Luis León Sánchez
8 Thibaut Pinot Fredrik Kessiakoff RadioShack-Nissan Fredrik Kessiakoff
9 Bradley Wiggins Tejay van Garderen dim gwobr
10 Thomas Voeckler Thomas Voeckler Thomas Voeckler
11 Pierre Rolland Fredrik Kessiakoff Pierre Rolland
12 David Millar Robert Kišerlovski
13 André Greipel Michael Mørkøv
14 Luis León Sánchez Peter Sagan
15 Pierrick Fédrigo Nicki Sørensen
16 Thomas Voeckler Thomas Voeckler Thomas Voeckler
17 Alejandro Valverde Alejandro Valverde
18 Mark Cavendish Alexander Vinokourov
19 Bradley Wiggins dim gwobr
20 Mark Cavendish dim gwobr
Terfynol Bradley Wiggins Peter Sagan Thomas Voeckler Tejay Van Garderen RadioShack-Nissan Chris Anker Sørensen

Nodiadau[golygu | golygu cod]

Pan yw un reidiwr yn arwain mwy nag un gystadleuaeth ar ddiwedd cymal mae'n derbyn pob crys, ond dim ond un crys gaiff ei wisgo y diwrnod canlynol. Mae'n gwisgo crys y gystadleuaeth pwysicaf (yn y drefn yma - melyn, gwyrdd, dot polca, gwyn).[13] Mae'r crysau eraill a ddeilir gan y reidiwr yn cael eu gwisgo gan y reidiwr sy'n ail yn y gystadlauaeth eilradd hwnnw (neu'r trydydd, pedwerydd reidiwr ayb. fel bo'r angen).

  • Yng nghymal 1, gwisgodd Bradley Wiggins, a oedd yn ail yn y gystadleuaeth, y crys gwyrdd, gan fod Fabian Cancellara yn gwisgo'r crys melyn.
  • Yng nghymal 2, gwisgodd Peter Sagan, a oedd yn ail yn y gystadleuaeth, y crys gwyrdd, gan fod Fabian Cancellara yn gwisgo'r crys melyn.

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

Dosbarthiad cyffredinol[golygu | golygu cod]

Reidiwr Tîm Amser
1 Baner Prydain Fawr Bradley Wiggins Team Sky 87h 34' 47"
2 Baner Prydain Fawr Chris Froome Team Sky + 3' 21″
3 Baner Yr Eidal Vincenzo Nibali Liquigas-Cannondale + 6' 19″
4 Baner Gwlad Belg Jurgen Van Den Broeck Lotto-Belisol + 10' 15″
5 Baner UDA Tejay van Garderen BMC Racing Team + 11' 04″
6 Baner Sbaen Haimar Zubeldia RadioShack-Nissan + 15' 41″
7 Baner Awstralia Cadel Evans BMC Racing Team + 15' 49″
8 Baner Ffrainc Pierre Rolland Team Europcar + 16' 26″
9 Baner Slofenia Janez Brajkovič Astana + 16' 33″
10 Baner Ffrainc Thibaut Pinot FDJ-BigMat + 17' 17″

Dosbarthiad bwyntiau[golygu | golygu cod]

Reidiwr Tîm Pwyntiau
1 Baner Slofacia Peter Sagan Green jersey Liquigas-Cannondale 421
2 Baner Yr Almaen André Greipel Lotto-Belisol 280
3 Baner Awstralia Matthew Goss Orica-GreenEDGE 268
4 Baner Prydain Fawr Mark Cavendish Team Sky 220
5 Baner Norwy Edvald Boasson Hagen Team Sky 160
6 Baner Prydain Fawr Bradley Wiggins Team Sky 144
7 Baner Prydain Fawr Chris Froome Team Sky 126
8 Baner Sbaen Luis León Sánchez Rabobank 104
9 Baner Yr Ariannin Juan José Haedo Team Saxo Bank-Tinkoff Bank 102
10 Baner Awstralia Cadel Evans BMC Racing Team 100

Brenin y Mynyddoedd[golygu | golygu cod]

Reidiwr Tîm Pwyntiau
1 Baner Ffrainc Thomas Voeckler Polka-dotted jersey Team Europcar 135
2 Baner Sweden Fredrik Kessiakoff Astana 123
3 Baner Denmarc Chris Anker Sørensen Team Saxo Bank-Tinkoff Bank 77
4 Baner Ffrainc Pierre Rolland Team Europcar 63
5 Baner Sbaen Alejandro Valverde Movistar Team 51
6 Baner Prydain Fawr Chris Froome Team Sky 48
7 Baner Sbaen Egoi Martínez Euskaltel-Euskadi 43
8 Baner Ffrainc Thibaut Pinot FDJ-BigMat 40
9 Baner Ffrainc Brice Feillu Saur-Sojasun 38
10 Baner Gweriniaeth Iwerddon Daniel Martin Garmin-Sharp 34

Dosbarthiad reidiwr ifanc[golygu | golygu cod]

Reidiwr Tîm Amser
1 Baner UDA Tejay van Garderen BMC Racing Team 87h 45′ 46″
2 Baner Ffrainc Thibaut Pinot FDJ-BigMat + 6' 13″
3 Baner Yr Iseldiroedd Steven Kruijswijk Rabobank + 1h 05' 48″
4 Baner Estonia Rein Taaramäe Cofidis + 1h 16' 32″
5 Baner Sbaen Gorka Izagirre Euskaltel-Euskadi + 1h 20' 40″
6 Baner Sbaen Rafael Valls Vacansoleil-DCM + 1h 26' 37″
7 Baner Slofacia Peter Sagan Liquigas-Cannondale + 1h 27' 42″
8 Baner Yr Almaen Dominik Nerz Liquigas-Cannondale + 1h 31' 08″
9 Baner Norwy Edvald Boasson Hagen Team Sky + 1h 41' 39″
10 Baner Yr Eidal Davide Malacarne Team Europcar + 1h 46' 06″

Dosbarthiad timau[golygu | golygu cod]

Safle Tîm Amser
1 RadioShack-Nissan 263h 12' 01″
2 Team Sky + 5' 54″
3 BMC Racing Team + 36' 36″
4 Astana + 43' 35″
5 Liquigas-Cannondale + 1h 04' 58″
6 Movistar Team + 1h 08' 19″
7 Team Europcar + 1h 08' 54"
8 Team Katusha + 1h 12' 49″
9 FDJ-BigMat + 1h 19' 28″
10 Ag2r-La Mondiale + 1h 41' 18″

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Le parcours du Tour de France-2012 dévoilé par erreur sur le site d’ASO. Adalwyd ar 11 Hydref 2011.
  2.  2012 Tour de France route officially presented. Adalwyd ar 18 Hydref 2011.
  3.  5 km de chrono en plus. Adalwyd ar 25 Mai 2012.
  4.  SELECTION OF TEAMS FOR TOUR DE FRANCE 2012. letour.fr (6 Ebrill 2012). Adalwyd ar 6 Ebrill 2012.
  5. "Andy Scheck with sacral fracture out for Tour de France", radioshacknissantrek.com, 13 Mehefin 2012.
  6. "Cobo to ride Tour and Vuelta in 2012", cyclingnews.com, 12 Ionawr 2012.
  7. "Hesjedal heads to Tour de France with another win on his mind", cyclingnews.com, 5 Mehefin 2012.
  8. "Scarponi set to ride Tour de France", cyclingnews.com, 19 Mehefin 2012.
  9. "Wiggins may not yet be at his peak, says Holm", cyclingnews.com, 13 Mehefin 2012.
  10. "Yates: Wiggins hasn’t peaked yet", cyclingnews.com, 13 Mehefin 2012.
  11.  Daniel Benson (30 Mehefin 2012). Cancellara wins 2012 Tour de France prologue in Liège. Cycling News. Future Publishing Limited. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2012.
  12.  Susan Westemeyer (7 Gorffennaf 2012). Froome leads double Sky success on La Planche des Belles Filles. Cycling News. Future Publishing Limited. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2012.
  13.  Tour de France 2009 Regulations. LeTour.fr.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

1903 · 1904 · 1905 · 1906 · 1907 · 1908 · 1909 · 1910 · 1911 · 1912 · 1913 · 1914
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919 · 1920 · 1921 · 1922 · 1923 · 1924 · 1925 · 1926 · 1927 · 1928 · 1929 ·
1930 · 1931 · 1932 · 1933 · 1934 · 1935 · 1936 · 1937 · 1938 · 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947 · 1948 · 1949 · 1950 · 1951 · 1952 · 1953 · 1954 · 1955 · 1956 · 1957 · 1958 · 1959 · 1960 · 1961 · 1962 · 1963 · 1964 · 1965 · 1966 · 1967 · 1968 · 1969 · 1970 · 1971 · 1972 · 1973 · 1974 · 1975 · 1976 · 1977 · 1978 · 1979 · 1980 · 1981 · 1982 · 1983 · 1984 · 1985 · 1986 · 1987 · 1988 · 1989 · 1990 · 1991 · 1992 · 1993 · 1994 · 1995 · 1996 · 1997 · 1998 · 1999 · 2000 · 2001 · 2002 · 2003 · 2004 · 2005 · 2006 · 2007 · 2008 · 2009 · 2010 · 2011 · 2012 · 2013 · 2014 · 2015