Totnes
Cyfesurynnau: 50°25′55″N 3°41′02″W / 50.432°N 3.684°W
| Totnes | |
|
|
|
| Poblogaeth | 7,444 |
|---|---|
| Plwyf | Totnes |
| Swydd | Dyfnaint |
| Rhanbarth | |
| Gwlad | Lloegr |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | TOTNES |
| Cod deialu | 01803 |
| Yr Heddlu | |
| Tân | |
| Ambiwlans | |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | De Orllewin Lloegr |
| Senedd y DU | Totnes |
| Rhestr llefydd: y DU • Lloegr • | |
Tref farchad yn ne Lloegr yw Totnes, sy'n gorwedd ar aber afon Dart yn Nyfnaint. Fe'i lleolir tau 22 milltir (35 km) i'r de o ddinas Caerwysg ac mae'n ganolfan weinyddol Cyngor Dosbarth South Hams, o fewn Dyfnaint. Poblogaeth: 8,000.
Mae Caerdydd 122 km i ffwrdd o Totnes ac mae Llundain yn 278.6 km. Y ddinas agosaf ydy Plymouth sy'n 33.2 km i ffwrdd.
Hanes[golygu]
Codwyd castell yn Totnes yn 907 ac roedd yn dref farchnad o bwys erbyn y 12fed ganrif. Adlewyrchir cyfoeth y lle yn y gorffennol gan y sawl tŷ marsiandïwr hen yno, sy'n dyddio o'r 16eg a'r ganrif olynol.
Cysylltir Totnes â chwedl Brutus, cyndad chwedlonol y Brythoniaid y ceir ei hanes yng ngwaith Nennius a Sieffre o Fynwy. Yn ôl y ffug-hanes, glaniodd Brutus a'i ddilynwyr yn Totnes pan gyrhaeddasant Ynys Prydain ar ôl hwylio o Gaerdroia. Nodir y safle honedig gan garreg a elwir yn 'Garreg Brutus' (Saesneg: Brutus Stone). Does dim sail hanesyddol i'r chwedl.
Dolenni allanol[golygu]
- (Saesneg) Bwrdd Croeso Totnes
Dinasoedd
Caerwysg · Plymouth
Trefi
Ashburton · Axminster · Bampton · Barnstaple · Bideford · Bradninch · Brixham · Buckfastleigh · Budleigh Salterton · Chagford · Chudleigh · Chulmleigh · Colyton · Cranbrook · Crediton · Cullompton · Dartmouth · Dawlish · Exmouth · Great Torrington · Hartland · Hatherleigh · Holsworthy · Honiton · Ilfracombe · Ivybridge · Kingsbridge · Kingsteignton · Moretonhampstead · Newton Abbot · North Tawton · Northam · Okehampton · Ottery St Mary · Paignton · Princetown · Salcombe · Seaton · Sherford · Sidmouth · South Molton · Tavistock · Teignmouth · Tiverton · Torquay · Totnes
Pentrefi
Beer · Bovey Tracey · Colyford ·