Toriad trydan

Oddi ar Wicipedia
Siopwr yn gweithio wrth olau lamp yn ystod toriad trydan yn Llanfachraeth. Ffotograff gan Geoff Charles (1957).

Methiant yn y cyflenwad trydan i ardal benodol yw toriad trydan neu ddiffoddiad.

Bu'r toriad mwyaf erioed yng ngogledd a dwyrain India ar 31 Gorffennaf 2012. Cafodd 620 miliwn o bobl – tua 9% o boblogaeth y byd – eu heffeithio.[1]

Ceir hefyd toriadau trydan pwrpasol, er enghraifft blacowts yn adeg rhyfel i atal y gelyn rhag gweld golau yn ystod cyrchoedd awyr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Rvi Nessman, "World's biggest blackout: 620 million people without power in India", The Christian Science Monitor (31 Gorffennaf 2012). Adalwyd ar 2 Mai 2018.