Tongareva (Ynys Penrhyn)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lagŵn Tongareva
Gweler hefyd Penrhyn (gwahaniaethu).

Mae Tongareva neu Ynys Penrhyn neu Mangorongaro yn un o bymtheg ynys Ynysoedd Cook. Mae tua 984 o bobl yn byw arni.

Daearyddiaeth[golygu]

Mae Ynys Penrhyn yn enghraifft ragorol o atol, y fwyaf o'i math yn Ynysoedd Cook. Mae'n gorwedd 1365 km i'r gogledd-ddwyrain o Rarotonga, prif ynys Ynysoedd Cook, sy'n ei gwneud hi'r ynys fwyaf anghysbell yn y grŵp. Mae wedi ei lleoli ar ben llosgfynydd tanfor sy'n codi 4876m o lawr y cefnfor. Y mae'n gylch 77 km o goral gyda lagŵn canolog 233 km² â'i chwarter yn orchuddiedig â chregynnau perl.

Hanes[golygu]

Pan dreuliodd E.H. Lamont flwyddyn ar yr ynys yn 1853 ar ôl llongdrylliad ei long, nid oedd y trigolion yn ystyried Tongareva fel un ynys unedig ond yn hytrach fel tair tiriogaeth lwythol, wedi'u gwahanu gan reefs, a ryfelai â'i gilydd yn aml. Te Pitaka (Y Cylch) oedd enw'r brodorion am yr ynys gyfan. I'r ynyswyr eraill ei henw oedd Tongareva, sy'n golygu "Tonga sy'n nofio mewn gofod". Yr enw Maori presennol arni yw Mangarongaro. Yr enw mwyaf cyfarwydd arni yw Ynys Penrhyn, ar ôl y llong Lady Penrhyn, dan y Capten William Cropton Lever, a laniodd yno ar 8 Awst, 1788. Enw Ewropeaidd arall ar yr ynys, nas defnyddir bellach, oedd Ynys Bennett.

Cyrhaeddodd cenhadon yn 1854. Roedd Tongareva, ac ynysoedd eraill yn ogystal, yn dioddef o ymosodiadau gan masnachwyr caethweision o Periw yn y 19eg ganrif; yn 1863 cipiwyd tua 410 o'r bobl allan o boblogaeth o tua 500 trwy dwyll pedwar cenhadwr brodorol a'u meistri Sbaenaidd o Periw: cawsant eu prynu am 5 dolar y pen. Ar ôl y digwyddiad hwnnw enillodd yr ynys yr enw Ynys y Pedwar Efengylwr yn Peru.

Erbyn heddiw mae Tongareva yn mwynhau ei statws fel uned yng ngwlad annibynnol Ynysoedd Cook. Mae gan yr ynys ei gyngor ei hun, gyda maer, is-faer a 4 cynghorwr etholedig, ac mae'n anfon cynrychiolydd i gyfarfodydd y llywodraeth yn Avarua, prifddinas Ynysoedd Cook.

Y diwydiannau pwysicaf heddiw yw twristiaeth a'r diwydiant perlau duon, a gesglir o'r lagŵns.

Llyfryddiaeth[golygu]

Stampiau o Ynys Penrhyn
  • E.H. Lamont, Wild Life Among the Pacific Islanders (1867; adargraffiad clawr papur, 1994, ISBN 982-315-003-6). Llyfr Lamont am ei daith i Tahiti a'r Ynysoedd Cook deheuol, yn cynnwys ei gyfnod ar Ynys Penrhyn, 1853-1854.

Cysylltiadau allanol[golygu]