Tomorrow Never Knows

Oddi ar Wicipedia
Clawr Revolver

"Tomorrow Never Knows", yw enw cân a gafodd ei recordio gan The Beatles, yn 1966, ac sy'n cloi'r albwm Revolver. Cafodd y gân yma ei hysgrifennu a'i chanu gan John Lennon, er iddi gael ei chofnodi fel gwaith 'Lennon/McCartney', prif bartneriaeth ysgrifennu caneuon y grŵp. Mae'r gân yma'n un sy'n sefyll allan, gan ei bod yn un o'r caneuon cyntaf 'seicadelig' a ysgrifennwyd gan y grŵp.

Technegau recordio[golygu | golygu cod]

Y prif reswm fod y gân ymamor gofiadwy yw'r defnydd o dechnegau recordio a oedd heb ei glywed cynt. Er enghraifft, roedd John Lennon wedi gofyn i'r cynhyrchydd, George Martin, am ffordd o wneud ei lais sowndio yn tebyg i'r 'Dalai Llama yn canu ar ben mynydd'. Fe ddaeth Martin a pheiriant 'Leslie Speaker', a llwyddodd i blesio Lennon. Ceir hefyd y defnydd o beiriant 'ADT', a oedd yn cael ei ddefnyddio i dyblu'r llais. Mae'r grŵp hefyd yn defnyddio nifer o lŵpiau tâp, i bwysleisio'r teimlad o seicadelia. Gan fod y grŵp yn defnyddio'r cyffur 'LSD' ar y pryd, roeddent yn gobeithio recordio cân a oedd yn adlewyrchu'r defnydd o'r cyffur. Mae drymio Ringo Starr hefyd yn bwysig dros ben i'r trac, ac ei fod yn ychwanegu at y ddelwedd seicadelig yma.