Tommy Godwin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Thomas Godwin
Manylion Personol
Enw Llawn Thomas Godwin
Llysenw Tommy
Dyddiad geni (1920-11-05)

Tachwedd 5, 1920 (94 oed)

Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Baner Prydain Fawr Prydain Fawr
Gwybodaeth Tîm
Tîm Presennol Wedi Ymddeol
Disgyblaeth Trac
Rôl Reidiwr
Golygwyd ddiwethaf ar:
4 Hydref 2007

Seiclwr trac Seisnig oedd Thomas Godwin (ganwyd tua 5 Tachwedd 1920, Connecticut, Yr Unol Daleithiau)[1], bu'n rasio yn ystod y 1940au a'r 1950au ac yn ddiweddarach daeth yn hyfforddwr, rheolwr a gweinydd yn y byd seiclo.

Enillodd Godwin dau fedal efydd yn pursuit tîm (gyda Robert Geldard, David Ricketts a Wilfrid Waters) a Kilo Gemau Olympaidd 1948 yn Llundain, a medal efydd arall yn Kilo Gemau'r Gymanwlad 1950.

Rhwng 1936 a 1950, gweithiodd Godwin yn Birmingham Small Arms Company. Am 36 mlynedd o 1950 rhedodd siop feics yn Silver Street yn ardal Kings Heath, Birmingham.[2]

Roedd Godwin yn reolwr o dîm cenedlaethol Prydain yng Ngemau Olympaidd 1964 yn Tokyo, bu'n Lywydd y British Cycling Federation a chlwb seiclo Solihull yn ddiweddarach. Rhedodd y gwersyll ymarfer cyntaf yn Mallorca a'r cwrs trac cyntaf yn Lilleshall. Sefydlodd Birmingham RCC, a bu ymysg arloeswyr cyntaf hyfforddwyr seiclo. Hyfforddodd a chynghorodd genhedlaeth o seiclwyr trac Prydain; mae nifer ohonynt wedi ennill medalau cenedlaethol a rhyngwladol.

Cyhoeddwyd ei hunanfywgraffiad It Wasn't That Easy: The Tommy Godwin Story yn 2007 gan y 'John Pinkerton Memorial Publishing Fund'.[3] Mae Tommy yn un o lysgennaid ar gyfer dychweliad y Gemau Olympaidd i Lundain yn 2012.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwefan swyddogol y Gemau Olympaidd
  2. Hanes Tommy Godwin Cycles ar wefan 'Made in Birmingham'
  3. Adolygiad o It Wasn't That Easy: The Tommy Godwin Story