Tomen Twtil

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Castell neu domen mwnt a beili ydyw Tomen Twtil, yn Rhuddlan, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ026776. Fe godwyd y domen (sef yr hen air Cymraeg am y “mwnt”) yn yr Oesoedd Canol, rhwng 1000 ac 1153.

Cofrestrwyd y mwnt a beili hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: FL015.[1]

Mae'r clwstwr mwyaf o'r tomennydd hyn drwy wledydd Prydain i'w weld yn ardal y gororau (neu'r Mers): sef Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Swydd Henffordd, Powys a Sir y Fflint fel y caiff ei adnabod heddiw.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

CymruDinbych.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato