Tom Hooper (cyfarwyddwr)
Oddi ar Wicipedia
Cyfarwyddwr ffilm a chyfarwyddwr teledu Seisnig ydy Thomas George "Tom" Hooper (ganed 1972).[1] Dechreuodd Hooper gynhyrchu ffilmiau byrion pan oedd yn 13 oed, a darlledwyd ei ffilm fer broffesiynol gyntaf, Painted Faces, ar Channel 4 ym 1992. Ym Mhrifysgol Rhydychen cyfarwyddodd Hooper ddramâu ac hysbysebion teledu. Ar ôl iddo raddio, cyfarwyddodd rhaglenni o Quayside, Byker Grove, EastEnders a Cold Feet.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Births, Marriages & Deaths Index of England & Wales, 1916-2005. 5d: 2485.