Tolar

Oddi ar Wicipedia
Tolar
Enghraifft o'r canlynolobsolete currency Edit this on Wikidata
Matharian Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1991 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd8 Hydref 1991 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1 Ionawr 2007 Edit this on Wikidata
OlynyddEwro Edit this on Wikidata
GwladwriaethSlofenia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Uned arian Slofenia o 1991 tan 2006 oedd y tolar. Rhennid yn 100 stotin.

Roedd papurau 10, 20, 50, 100, 200, 500, 1000, 5000 a 10,000 tolar mewn cylchrediad. Darluniwyd ffigyrau enwog o hanes, diwylliant a gwyddoniaeth Slofenia arnynt, gan gynnwys y diwygiwr Protestannaidd a chyfieithydd y Beibl Primož Trubar, y mathemategydd Jurij Vega, y pensaer Jože Plečnik, yr awdur Ivan Cankar a'r bardd France Prešeren.

Diddymwyd y tolar ym mis Ionawr 2007, pryd cyflwynyd yr ewro fel arian cyfredol Slofenia gyda chyfradd cyfnewid o 239.640 tolar i'r ewro.

Papurau banc tolar[golygu | golygu cod]

GwerthOchr flaenOchr gefnPrintiwyd gyntafCyflwynwyd
10 tolar
Primož Trubar a tudalen gyntaf ei Abecedarium
15 Ionawr 1992 27 Tachwedd 1992
20 tolar
Janez Vajkard Valvasor
15 Ionawr 1992 28 Rhagfyr 1992
50 tolar
Jurij Vega
15 Ionawr 1992 19 Mawrth 1993
100 tolar
Rihard Jakopič
15 Ionawr 1992 30 Medi 1992
200 tolar
Jacobus Gallus
15 Ionawr 1992 30 Medi 1992
500 tolar
Jože Plečnik
15 Ionawr 1992 30 Medi 1992
1000 tolar
France Prešeren
15 Ionawr 1992 30 Medi 1992
5000 tolar
Ivana Kobilca
1 Mehefin 1993 13 Rhagfyr 1993
10,000 tolar
Ivan Cankar
28 Mehefin 199415 Mawrth 1995