Tochareg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Twrcestan

Cangen ieithyddol sy'n rhan o'r teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd, ac iddi ddwy iaith darfodedig, sef Tochareg A a Tochareg B. Sieredid Tochareg mewn rhannau dywreiniol o'r ardal a adweinir fel Twrcestan heddiw, yng ngorllewin Tseina. Er gwaethaf ei lleoliad daearyddol dwyreiniol mae Tochareg yn perthyn i'r centum, y grŵp gorllewinol o ieithoedd Indo-Ewropeaidd, yn hytrach na'r satem, y grŵp dwyreiniol. Wedi ei hynysu rhwng ieithoedd Sino-Tibetaidd yn y dwyrain ac ieithoedd Indo-Ewropeaidd satem yn y gorllewin, mae Tochareg yn enigma ieithyddol ac mae rhai o'r damcaniaethau niferus amdani'n ddadleuol.

Darganfod Tochareg[golygu]

Rhan o hen lawysgrif Dochareg, 7fed ganrif neu'r 8fed

Ar ddiwedd y 19eg ganrif roedd anturiaethwyr, yn eu plith y Swedwr Sven Hedin, wedi cyhoeddi bod olion gwareiddiad hynafol anhysbys i'w gweld dan dywod basn Tarim ger yr hen ffordd garafan sy'n rhedeg trwy'r trefi oasis Kusha, Karashahr a Turfan, rhwng 400 a 800 milltir i'r dwyrain o Kashgar (Ko'shin) ar ymyl ogleddol Anialwch Takla Makan, gorllewin Tseina. Enynwyd diddordeb archaeolegwyr ac aeth sawl tîm archaeolegol i'r ardal yn yr 1890au a'r 1910au. Darganfuwyd nifer o ddogfennau mewn sawl iaith, gan gynnwys Iraneg; yn eu plith roedd nifer o ddogfennau mewn iaith anhysbys. Roeddynt yn dyddio o'r 7fed ganrif a'r 8fed ganrif, wedi eu hysgrifennu mewn ysgrifen Ogledd Indiaidd o'r dosbarth Brahmi. Roedd rhai o'r testunau yn gyfieithiadau o weithiau Sansgrit, gan gynnwys testunau dwyieithog o'r iaith newydd a'r testunau Sansgrit gwreiddiol, ffaith a alluogodd ieitholegwyr i darllen yr iaith ddiarth a chynnig ei chyfieithu. Rhoddwyd yr enw "Tochareg" i'r iaith honno oherwydd cyfeiriad tybiedig ati mewn nodyn mewn llawysgrif Uigur. Tybiwyd mai iaith y Tocharoi, pobl o Ganolbarth Asia y mae'r daearyddwr clasurol Strabo yn cyfeirio atynt, ydoedd a'i bod yn perthyn i'r ieithoedd Iranaidd. Ond sylweddolwyd yn fuan nad oedd Tochareg yn perthyn yn agos i unrhyw iaith Indo-Ewropeaidd arall ac felly fe'i rhoddwyd mewn dosbarth ar wahân. Y syndod mwyaf oedd bod y gair Tochareg am "cant", känt, yn dangos ei bod yn perthyn i'r is-deulu Indo-Ewropeaidd gorllewinol (grŵp centum). Mae elfennau o'r Dochareg yn gyffelyb i'r hyn a geir yn yr ieithoedd Celteg ac Italeg yn ogystal. Sylweddolwyd yn gynnar fod y Dochareg yn cael ei rhannu'n ddwy iaith (er bod rhai'n dadlau mai tafodieithoedd cryf ydynt yn hytrach nag ieothoedd annibynnol) a rhoddwyd yr enwau "Tochareg A" a "Tochareg B" arnynt. Fe'i gelwir hefyd yn "Twrffanaeg" (iaith Turfan) a "Cwshaeg" (iaith Kusha). Yn y gorffennol roedd Iraneg yn cael ei siarad i'r gorllewin o fasn Tarim a cheir geiriau o darddiad Iraneg yng ngeirfa'r Dochareg. Uigur sy'n cael ei siarad yn yr ardal heddiw.

Tochareg A (Twrffanaeg)[golygu]

Iaith neu dafodiaith Dochareg ardal Turfan. Ychydig o dystiolaeth uniongyrchol sydd ar gael am strwythr ieithyddol Tochareg A. Ymddengys ei bod yn gyffelyb i Dochareg B yn ei phrif amlinelliadau.

Tochareg B (Cwshaeg)[golygu]

Ysgrifen Dochareg B ar ddarn o bren, a ddarganfuwyd yn Kusha, gorllewin Tseina

Iaith neu dafodiaith Dochareg ardal Kusha. Ceir tair cenedl yn Tochareg B, sef gwrywaidd, benywaidd a di-ryw. Mae ganddi bedair cyflwr rhif: yn ogystal â'r unigol a lluosog arferol ceir deuol, sy'n dynodi deuoliaeth a paral a ddefnyddir ar gyfer parau naturiol, e.e. okso "ych", oksaine "pâr o ych", oksain "mwy na dau ych." Ceir rhediadau geiriol, fel yn Lladin yn ogystal â rhediadau berfol. Mae gan yr ansoddeiriau eu rhediadau hefyd. Mae berfau Tochareg B yn gyfansawdd fel rheol, gyda lleisiau gweithredol a lled-dawel, mynegol a dibynnol.

Geirfa[golygu]

Mae tarddiad nifer o eiriau Tochareg yn dywyll am ei bod yn iaith farw ynysedig â'r dystiolaeth amdani'n gyfyngedig i gyfnod cymharol byr a diweddar. Dyma ychydig o enghreifftiau.

  • A kukäl, B kokale (olwyn): Groeg kúklos, Sansgrit cakrás
  • B mit (mêl): Rwseg mëd, Sansgrit mádhu (cf. "medd" yn Gymraeg, y ddiod gadarn a wneir o fêl)
  • A a B tu (ti): Lladin , Sansgrit tvám
  • Rhifau (A a B): 1 sas, se; 2 wu, wi; 3 tre, trai; 4 śtwar, śtwer; 5 päñ, piś; 6 säk, skas; 7 spät, sukt; 8 okät, okt; 9 ñu; 10 śäk, śak; 100 känt, kante

Llyfryddiaeth[golygu]

  • W.B. Lockwood, A Panorama of Indo-European Languages (Llundain, 1972), pennod 13 "Tocharian". ISBN 0091110203
  • Colin Renfrew, Archaeology and Language (Llundain, 1987). ISBN 0140132767
  • E.Sieg a W.Siegling, Tocharisch, die Sprache der Indoskythen (Berlin, 1908).