Taulupe Faletau

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Toby Faletau)
Taulupe Faletau
Ganwyd12 Tachwedd 1990 Edit this on Wikidata
Tofua Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • South Gloucestershire and Stroud College Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra188 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau109 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Dreigiau, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, Bath Rugby, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed, Rygbi Caerdydd Edit this on Wikidata
SafleWythwr Edit this on Wikidata

Chwaraewr rygbi'r undeb sy'n chwarae i Ddreigiau Casnewydd Gwent a Chymru yw Tangaki Taulupe "Toby" Faletau (ganed 12 Tachwedd 1990, Tofua, Tonga). Chwaraeodd Faletau fel blaenasgellwr i Crosskeys RFC cyn ymuno gyda Dreigiau Casnewydd Gwent.

Addysg[golygu | golygu cod]

Addysgwyd Taulupe yn ysgol gynradd Pont y Gôf yng Nglyn Ebwy cyn iddo symud i Ysgol Gymunedol Trefddyn.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Faletau i Bant-teg hyd nes iddo gyrraedd lefel ieuenctid, cyn symud i chwarae ym Mryste am gyfnod. Chwaraeodd ei gem gyntaf i Ddreigiau Casnewydd Gwent ym mis Tachwedd 2009 yn erbyn Caeredin.

Enwyd Faletau fel aelod o garfan dan 20 Cymru ym mis Rhagfyr 2009 ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Cafodd hefyd ei ddewis fel aelod o garfan Cwpan Ieuenctid y Byd a gynhaliwyd yn yr Ariannin ym mis Mehefin 2010.

Galwyd arno i ymuno gyda phrif garfan Cymru ym mis Tachwedd 2010 a chafodd ei gynnwys yng ngharfan Tîm cenedlaethol Cymru ym mis Ionawr 2011 ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Chwaraeodd ei gem gyntaf dros Gymru yn erbyn y Barbariaid ar 4 Mehefin 2011. Hefyd ym Mehefin 2011, fe enwyd Faletau fel 'Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn' i Ddreigiau Casnewydd Gwent.[1]

Ym mis Awst 2011, fe'i enwyd yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2011 yn Seland Newydd. Sgoriodd ei gais rhyngwladol cyntaf yn ei gem gyntaf yn y gystadleuaeth ar 11 Medi 2011 yn erbyn De Affrica.[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Erthygl Golwg360 - Gwobrwyo Brew a Faletau
  2. Erthygl Golwg360 - Cymru o fewn dim
  3. "Gwefan Undeb Rygbi Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2011-10-22.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]