Tobolsk
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng Ngorllewin Siberia, Rwsia yw Tobolsk. Saif ar lan Afon Irtysh.
Roedd y cemegydd enwog Dmitri Mendeleev yn frodor o Tobolsk. Fe'i ganed yno ar yr 8fed o Chwefror 1834 a bu fyw yno tan yn bymtheg oed pan symudodd i St Petersburg.