Titan (mytholeg)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Titaniaid)
Cwymp y Titaniaid (Cornelis van Haarlem, 1588).

Ym mytholeg Roeg, roedd y Titaniaid (Groeg: Τῑτάν Tītān; lluosog: Τῑτᾶνες Tītânes) yn hîliogaeth o dduwiau yn ystod yr Oes Aur.

Roedd deuddeg ohonynt yn wreiddiol, chwech gwrywaidd a chwech benywaidd, ond ganed plant iddynt hefyd. Rheolid hwy gan yr ieuengaf, Cronos, oedd wedi gorchfygu eu tad, Oranos ('Awyr'), ar argymhelliad eu mam. Gaia ('Daear').

Gorchfygwyd y Titaniaid gan y Deuddeg Olympiad, dan arweiniad Zeus, yn y Titanomachia ('Rhyfel y Titaniaid'). Carcharwyd hwy yn Tartaros, rhan ddyfnaf yr isfyd.

Y deuddeg Titan gwreiddiol oedd:

Gwrywaidd

Benywaidd