Tir coedwig dan reolaeth

Oddi ar Wicipedia
Cynaeafu fforest o goed bytholwyrdd yn y Ffindir.

Tir coedwig dan reolaeth yw datblygu cynlluniau rheoli coedwig fel rhan integrol o gynllunio defnydd tir rhanbarthol neu genedlaethol, at ddibenion diogelu natur, cadwraeth tirwedd a chynnal tirweddau sy'n bod neu y byddai'n ddymunol eu cael. Mae'n hefyd yn derm cyfreithiol am ardal sy'n destun gwarchodaeth drwy ddeddfwriaeth, rheoleiddiad neu bolisi defnydd tir. Yn draddodiadol yn Gymraeg, dywedir 'fforest' am goedwig dan reolaeth masnachol a 'choedwig' am goedydd naturiol, amrywiol ac sy'n cynnwys llawer mwy o anifeiliaid a phlanhigion.

Gelwir arwynebedd cyfan menter goedwigaeth neu uned reoli yn arwynebedd tir coedwig h.y. cyfanswm tir cynhyrchiol ac anghynhyrchiol y goedwig.[1]

Ceir anghytundeb gan lawer o bobl ynghylch y mater hwn gan fod llawer o'r farn na ddylai 'coedwig dan reolaeth' fod yn gyfystyr â rheoli llinellau cyfochrog o goed unffurf ag y dylid rheoli coedwigoedd mwy amrywiol eu natur a chymeryd sylw o hawliau'r brodorion lleol, a chadwraeth bywyd gwyllt a phlanhigion dan fygythiad. Ceir anghytundeb hefyd ynghylch rol tanau gwyllt mewn fforestydd, y defnydd ohonynt ar gyfer adloniant a materion eraill. gwir hefyd yw dweud y gofyn am goed a phren yn parhau'n uchel, ac yn cynyddu.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cychwynwyd rheoli fforestydd mewn modd systematig er mwyn darparu pren mewn modd cynaladwy yn yr Almaen yn y 14g, yn enwedig yn Nuremberg,[2] a hefyd yn Japan yn 16g.[3] Y ddau nodwedd bwysicaf ar y cychwyn, oedd mapio a chynllunio'r fforest mewn unedau neu rannau gwahanol ac yn ail drwy gynllunio'r fforest gyda golwg ar ei chynaeafu ymhen degawdau. Mewn nifer o fannau, datblygwyd y grefft o arnofio'r coed fel rafftiau i lawr i aber yr afonydd, neu i felinau coed ar eu glannau e.e. yn ne-orllewin yr Almaen drwy afonydd Main, Neckar, Donaw a'r Rhine. Galwyd rhai mathau o goed yn 'Hollander' gan mai i borthladdoedd yn yr Iseldiroedd y bwriedwyd eu gwerthu. Dyma gychwyn, felly, ar reoli fforestydd er budd economaidd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-20.
  2. Buttinger, Sabine (2013). "Idee der Nachhaltigkeit [The Idea of Sustainability]" (yn German). Damals 45 (4): 8.
  3. "Forestry in Yashino". City of Nara, Nara. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-28. Cyrchwyd 2010-10-12.