Tipu's Tiger

Oddi ar Wicipedia
Tipu's Tiger, V&A Museum.

Tegan ar gyfer Tipu Sultan, sef Rheolwr Gwladwriaeth Mysore, ydy'r Tipu's Tiger sy'n degan mecanyddol. Mae'n darlunio teigr allan o bren a phaent sy'n cnoi dyn Ewropeaidd; mae'r arteffact (neu'r cerflun hwn) bron a bod yn faint llawn.

Ceir symudiadau mecanyddol oddi fewn i'r tegan sy'n symud llaw'r dyn ac yn creu sgrechiadau sain gan y dyn a sŵn ysgyrnygu gan y teigr. Ar ben hyn ceir fflap ar ochr y teigr ac oddi fewn ceir bysell organ gyda deunaw nodyn.

Mae wedi bod yn arteffact poblogaidd iawn gyda'r cyhoedd yn gyffredinol yn Llundain ers iddo gael ei arddangos gyntaf ym 1808, ac ers 1880 mae wedi bod yng nghasgliad Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Amgueddfa Victoria & Albert (2011-07-16). Tipu's Tiger. Amgueddfa Victoria & Albert.