Anturiaethau Tintin

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Tintin)
Murlun yng ngorsaf metro Stockel (neu Stokkel) ym Mrwsel gyda chymeriadau o'r gyfres.

Cyfres o stribedi comig yw Anturiaethau Tintin (Ffrangeg: Les Aventures de Tintin), a grewyd gan y darlunydd Belgaidd Hergé, neu Georges Remi i roi iddo'i enw cywir (1907–1983). Ymddangosodd y rhifyn cyntaf mewn Ffrangeg yn atodiad plant papur newydd Belgaidd Le Vingtième Siècle ar 10 Ionawr 1929. Roedd wedi ei osod mewn byd a ymchwilwyd yn fanwl, yn adlewyrchiad cywir o'n byd ni, ac mae'r gyfres wedi parhau i fod yn ffefryn ymhlith darllenwyr am 80 mlynedd.

Arwr y gyfres yw Tintin, gohebydd Belgaidd ifanc. Yn y cyfieithiadau Cymraeg diweddar, mae'n cael ei gynorthwyo o'r cychwyn gan ei gi ffyddlon, Milyn (Milou yn Ffrangeg). Mae ychwanegiadau poblogaidd i'r cymeriadau yn ddiweddarach yn cynnwys Capten Hadog, capten sarrug, bras a choeglyd, a'r Athro Ephraim R. Efflwfia (Professeur Tournesol), sy'n glyfar ond yn drwm ei glyw, a chymeriadau eraill lliwgar megis y ddau dditectif analluog Parry-Williams a Williams-Parry (Dupond et Dupont).

Cyfieithwyd 5 o'r cyfrolau i'r Gymraeg rhwng 1978 a 1982 gan Roger Boore a'u cyhoeddi gan Wasg y Dref Wen; Teyrnwialen Ottokar, Y Cranc â'r Crafangau Aur, Cyfrinach yr Uncorn, Trysor Rackham Goch a Tintin a'r Dyn Eira Dychrynllyd oedd y rhain. Cyhoeddwyd rhagor o gyfieithiadau newydd o nifer o gyfrolau eraill ers 2008 gan Dafydd Jones, a'u cyhoeddi gan Dalen. Mae yna wahaniaethau rhwng y ddau grŵp o gyfieithiadau, er enghraifft yn enwau rhai o'r cymeriadau – enwau'r ditectifs yng nghyfieithiadau 1978–82 yw Johns a Johnnes, enw ci Tintin yw Smwtyn ac Doctor Penchwiban yw Professeur Tournesol.

Llyfrau[golygu | golygu cod]

Rhif Teitl gwreiddiol Ysgrifennwyd Cyfrol du a gwyn Cyfrolau lliw Teitl Cymraeg Dyddiad cyhoeddi yn Gymraeg Cyfieithydd
1 Tintin au pays des Soviets 1929–1930 1930 –– –– –– ––
2 Tintin au Congo 1930–1931 1931 1946 –– –– ––
3 Tintin en Amérique 1931–1932 1932 1945 Tintin yn America 2022 Jones, DafyddDafydd Jones
4 Les Cigares du pharaon 1932–1934 1934 1955 Mwg Drwg y Pharo 2008 Jones, DafyddDafydd Jones
5 Le Lotus bleu 1934–1935 1936 1946 Alaw'r Dŵr 2016 Jones, DafyddDafydd Jones
6 L'Oreille cassée 1935–1937 1937 1943 Y Glust Glec 2013 Jones, DafyddDafydd Jones
7 L'Île Noire 1937–1938 1938 1943, 1966 Yr Ynys Ddu 2009 Jones, DafyddDafydd Jones
8 Le Sceptre d'Ottokar 1938–1939 1939 1947 Teyrnwialen Ottokar 1980 Boore, RogerRoger Boore
Braint y Brenin Ottokar 2019 Jones, DafyddDafydd Jones
9 Le Crabe aux pinces d'or 1940–1941 1941 1943 Y Cranc â'r Crafangau Aur 1978 Boore, RogerRoger Boore
Y Cranc â'r Crafangau Aur 2015 Jones, DafyddDafydd Jones
10 L'Étoile mystérieuse 1941–1942 –– 1942 Y Seren Wib 2011 Jones, DafyddDafydd Jones
11 Le Secret de la Licorne 1942–1943 –– 1943 Cyfrinach yr Uncorn 1978 Boore, RogerRoger Boore
Dirgelwch yr Uncorn 2020 Jones, DafyddDafydd Jones
12 Le Trésor de Rackham le Rouge 1943 –– 1944 Trysor Rackham Goch 1978 Boore, RogerRoger Boore
Trysor Rhaca Goch 2020 Jones, DafyddDafydd Jones
13 Les Sept Boules de cristal 1943–1946 –– 1948 Rhith Saith Rhyfeddod 2017 Jones, DafyddDafydd Jones
14 Le Temple du Soleil 1946–1948 –– 1949 Teml yr Haul 2018 Jones, DafyddDafydd Jones
15 Tintin au pays de l'or noir 1948–1950 –– 1950, 1971 Anialwch yr Aur Du 2009 Jones, DafyddDafydd Jones
16 Objectif Lune 1950–1952 –– 1953 Llwybr i'r Lleuad 2010 Jones, DafyddDafydd Jones
17 On a marché sur la Lune 1952–1953 –– 1954 Ar Leuad Lawr 2010 Jones, DafyddDafydd Jones
18 L'Affaire Tournesol 1954–1956 –– 1956 Cawl Erfyn Efflwfia 2011 Jones, DafyddDafydd Jones
19 Coke en stock 1956–1958 –– 1958 Y Bad Rachub 2014 Jones, DafyddDafydd Jones
20 Tintin au Tibet 1958–1959 –– 1960 Tintin a'r Dyn Eira Dychrynllyd 1982 Boore, RogerRoger Boore
Tintin ar grib Tibet 2017 Jones, DafyddDafydd Jones
21 Les Bijoux de la Castafiore 1961–1962 –– 1963 Perdlysau Castafiore 2016 Jones, DafyddDafydd Jones
22 Vol 714 pour Sydney 1966–1967 –– 1968 Awyren 714 i Sydney 2008 Jones, DafyddDafydd Jones
23 Tintin et les Picaros 1975–1976 –– 1976 Tintin a Chwyldro'r Pícaros 2021 Jones, DafyddDafydd Jones
24 Tintin et l'Alph-Art (anorffenedig) 1978–1983 –– 1986, 2004 –– –– ––

Ffilmiau[golygu | golygu cod]