Tina Turner
Oddi ar Wicipedia
Mae Anna Mae Bullock, sy'n fwy adnabyddus wrth ei henw llwyfan Tina Turner (ganwyd 26 Tachwedd 1939) yn gantores, dawnswraig a diddanwr Americanaidd. Yn sgîl ei llwyddiant, ei phoblogrwydd a'i chyfraniadau parhaus i gerddoriaeth roc, mae nifer wedi rhoi'r teitl "Brenhines Roc & Rol" iddi. Mae'n enwog am ei pherfformiadau llwyfan bywiog, ei llais pŵerus a'i chyngherddau poblogaidd. Mae Turner wedi ennill wyth Gwobr Grammy.
