Timothy Jones

Oddi ar Wicipedia
Timothy Jones
Ganwyd1962 Edit this on Wikidata
Chwitffordd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdarlunydd Edit this on Wikidata

Darlunydd, cerflunydd a darlithydd celf o Gymro yw Tim Jones (ganed yn Wrecsam yn 1962). Cafodd ei fagu yn Chwitffordd ac ym mhentref Downing ger Treffynnon, Sir y Fflint, ond symudodd i fyw i Awstralia yn ei ugeiniau cynnar.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Gwaith ei dad, Mervyn, oedd trwsio a gwerthu hen gertiau sipsiwn. Ymhlith ei gwsmeriaid niferus a ddeuai o bell ac agos yr oedd aelodau o’r Romani, y llenor Roald Dahl, a rhai o fawrion y byd roc fel Led Zeppelin a Black Sabbath. Roedd tad Tim hefyd yn gyfaill i Peter Blake, yr arlunydd pop sydd fwyaf adnabyddus am y collage eiconig a greodd ar gyfer clawr albwm Sergeant Pepper’s Lonely Hearts Club Band y Beatles yn 1967. Byddai’n dod draw i’w cartref yn aml, ac un prynhawn fe ddysgodd Tim sut i argraffu gyda phren. Rai misoedd yn ddiweddarach cafodd set argraffu gan Siôn Corn.

Serch ei ddawn amlwg wrth arlunio fel plentyn, profodd Tim drafferthion sgrifennu a darllen ar hyd ei lencyndod ac roedd yn dair ar ddeg pan awgrymwyd wrth ei rieni ei fod yn dioddef o ddyslecsia.

Wedi iddo disgleirio yn stiwdio gelf yr ysgol uwchradd yn Nhreffynnon, aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Celf Wrecsam, cyn ennill gradd dosbarth cyntaf mewn arlunio ac argraffu yng ngholeg polytechnig Newcastle Upon Tyne. Bu’n byw am gyfnod yn Llundain ac Efrog Newydd, cyn mudo i Awstralia yn 1984 i gwblhau diploma ac yna gradd Meistr mewn cerflunio.

Gyrfa fel arlunydd a darlithydd[golygu | golygu cod]

Mae ei waith celf cyfoes yn cynnwys darluniau, argraffiadau a cherfluniau. Erbyn hyn, mae Tim yn uno ar artistiaid mwyaf blaenllaw Awstralia ac mae swmp sylweddol o’i waith yn rhan o gasgliadau orielau cenedlaethol Awstralia a llawer iawn ohono hefyd ym meddiant casglwyr preifat ledled y byd.[2] Ymhlith nifer o weithiau comisiwn mewn mannau cyhoeddus y mae sawl coeden efydd anferthol, gan gynnwys y goeden goch drawiadol sydd i’w gweld ym mynedfa Campws Sefydliad Holmesglen yn ninas Yarra.[3] Mae wedi darlithio mewn prifysgolion ledled y wlad, ac yn ddiweddar, yng nghanolfan addysg gydol oes y CAE islaw Llyfrgell Ganolog Melbourne.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae wedi ysgaru ac mae ganddo ddwy ferch.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Coalas, Cangarwod a Choed[dolen marw], Lowri Haf Cooke. Barn Mehefin 2012
  2. Tim Jones: the phantom and the city Archifwyd 2010-11-01 yn y Peiriant Wayback. Arddangosfa yn Ian Potter Museum of Art. Gwefan Artbase
  3. Tim Jones Archifwyd 2013-06-20 yn y Peiriant Wayback. o wefan Sefydliad Holmesglen

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]