Tim Hetherington

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tim Hetherington yn Chwefror 2011.

Ffoto-newyddiadurwr a gwneuthurwr ffilm o Sais[1] oedd Timothy Alistair Telemachus Hetherington[2] (5 Rhagfyr 1970 – 20 Ebrill 2011).[3] Astudiodd ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaerdydd.[4] Enillodd wobr Ffotograff y Flwyddyn gan y World Press ym 1997.[5] Cyd-gyfarwyddodd y ffilm ddogfen Restrepo (2010) am filwyr Americanaidd yn Rhyfel Affganistan gyda Sebastian Junger, a gafodd ei henwebu am Oscar.[6] Cafodd Hetherington a'r ffotograffydd Chris Hondros eu lladd wrth eu gwaith ym Misrata yn ystod Rhyfel Cartref Libya.[7]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Roedd gan Hetherington ddinasyddiaeth Brydeinig ac Americanaidd: (Saesneg) 2 journalists are first American deaths in Libya. CBS (20 Ebrill 2011). Adalwyd ar 16 Ebrill 2013. "Hetherington, who held dual U.S.-U.K. citizenship, and Hondros were veteran war photographers who had seen heavy fighting in several other conflicts."
  2. (Saesneg) Levy, Jon (27 Ebrill 2011). Tim Hetherington: Photojournalist and film-maker whose award-winning reportage exposed the human cost of war. The Independent. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  3. (Saesneg) Brabazon, James (21 Ebrill 2011). Tim Hetherington obituary. The Guardian. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  4. (Saesneg) Fenton, Ben a Pickford, James (21 Ebrill 2011). Obituary:Tim Hetherington. Financial Times. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  5. (Saesneg) Hughes, Stuart (18 Ionawr 2013). Tim Hetherington, his life and death. BBC. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  6. (Saesneg) Obituary: Tim Hetherington. The Daily Telegraph (21 Ebrill 2011). Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  7. (Saesneg) Bodies of two photographers killed in Libya arrive in Benghazi. CNN (22 Ebrill 2011). Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.