Tim Benjamin

Oddi ar Wicipedia
Tim Benjamin
Ganwyd2 Mai 1982 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethsbrintiwr Edit this on Wikidata
Taldra183 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau76 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Athletwr Cymreig yw Timothy Benjamin (ganwyd 2 Mai 1982, Caerdydd) sy'n arbenigo fel rhedwr 400 medr. Fel glaslanc, hyfforddwyd gan Jock Anderson, a bu'n ymarfer yn yr un grŵp a Christian Malcolm. Symudodd i fyw i Slough lle cafodd ei hyfforddi gan Tony Lester; roedd Marlon Devonish ymysg ei bartneriaid ymarfer yno.

Enillodd nifer o deitlau iau, gan gynnwys ym Mhencampwriaethau Athletau Iau y Byd ym 1999. Yn fuan wedyn, dechreuodd ganolbwyntio ar y ras 400 medr, a dewiswyd ef fel rhan o dim ras gyfnewid ar gyfer Pencampwriaethau Athletau'r Byd yn Edmonton, Canada yn 2001.

Erbyn 2002, roedd wedi sefydlu ei hun fel un o athletwyr gorau Prydain, gan ennill y deitl Prydainig AAA, a rhedeg fel rhan o sgwad llwyddiannus Prydain yn y Cwpan Ewropeaidd. Enillodd fedal arian fel aelod o dîm Cymru yn y ras gyfnewid 4x400m yng Ngemau'r Gymanwlad ym Manceinion yn 2002 (gyda Iwan Thomas, Jamie Baulch a Matthew Elias). Roedd y canlyniad yn un dadleuol rhwng yr athletwyr eu hunain yn ogystal a'r swyddogion a oedd yn dyfarnu. Yr un flwyddyn, anillodd fedal arian ym Mhencampwriaethau Athletau Ewropeaidd Odan 23 yng Ngwlad Pŵyl.

Cyrhaeddodd y rownd gyn-derfynnol yng Ngemau Olympaidd 2044 yn Athen. Daeth yn bumed ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2005, a chweched ym Mhencampwriaethau Ewrop 2006. Bu rhaid iddo dynnu allan oherwydd anafiad o Gemau'r Gymanwlad ym Melbourne (2006), lle disgwylwyd iddo fod yn heriwr cryf dros fedal aur.

Ym Mhencampwriaethau Athletau Ewropaidd 2006 yn Gothenburg, enillodd fedal arian yn y rag gyfnewid 4x400m ynghyd â Robert Tobin, Rhys Williams a Graham Hedman, mewn amser o 3:01.63. Fe orffenodd yn chweched yn y rownd derfynol o'r gystadleuaeth unigol.

Ar ddiwedd 2006, datganodd y byddai'n dychwelyd i fyw i Gaerdydd i gael ei hyfforddi gan Colin Jackson, ynghyd â'i gyd-Gymro Rhys Williams a oedd hefyd am symud yn ôl o Loughborough.

Priododd Benjamin â'r athletwraig Natalie Lewis ym mis Tachwedd 2007.