Tim Cahill

Oddi ar Wicipedia
Tim Cahill

Cahill gydag Awstralia yn 2009
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnTimothy Filiga Cahill[1]
Dyddiad geni (1979-12-06) 6 Rhagfyr 1979 (44 oed)
Man geniSydney, Awstralia
Taldra1.78m[2]
SafleYmosodwr
Y Clwb
Clwb presennolShanghai Shenhua
Rhif17
Gyrfa Ieuenctid
1995-1997Sydney Olympic FC
1997Sydney United
1997–1998Millwall
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1998–2004Millwall217(52)
2004–2012Everton226(56)
2012–2014New York Red Bulls46(13)
2015–2016Shanghai Shenhua7(1)
Tîm Cenedlaethol
1994Samoa dan 20[3]2(0)
2004Awstralia dan 233(1)
2004–2018Awstralia82(9)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 28 Ebrill 2015.

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 28 Ebrill 2015

Pêl-droediwr o Awstralia ydy Tim Cahill (ganwyd Timothy Filiga Cahill, 6 Rhagfyr 1979) sy'n chwarae i'r Shanghai Shenhua yng Nghynghrair Chinese Super League yn y Tsieina ac i dîm pêl-droed cenedlaethol Awstralia. Cyn symud i Efrog Newydd roedd yn chwarae ei bêl-droed yn Lloegr i Millwall ac Everton.

Ganed Cahill yn Sydney, Awstralia i dad Seisnig o dras Gwyddelig a mam o Samoa[4][5].

O'r herwydd, roedd yn gymwys i chwarae pêl-droed i Awstralia, Lloegr, Samoa a Gweriniaeth Iwerddon a phan yn 14-mlwydd-oed cafodd ei alw i garfan dan 20 Samoa ar gyfer Pencampwriaeth dan 20 Oceania[6]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel eilydd mewn colled 3-0 yn erbyn Seland Newydd a chwaraeodd ei ail gêm yn y golled 3-0 erbyn Fanwatw[7].

Yn 2002 cafodd Cahill gynnig i ymuno â charfan Gweriniaeth Iwerddon ond oherwydd ei ddwy gêm i dîm dan 20 Samoa, nid oedd yn gymwys[3], ond newidiwyd rheolau cymhwyster FIFA yn 2004 a penderfynodd Cahill ddewis cynrychioli Awstralia[8].

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r Socceroos mewn gêm gyfeillgar yn erbyn De Affrica ar 30 Mawrth 2004 yn Loftus Road, Llundain[9] a bellach, Cahill yw prif sgoriwr yn holl hanes pêl-droed Awstralia gyda 31 gôl ar ôl iddo rwydo dwywaith mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Ecwador ar 5 Mawrth 2014[10].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Squad List". Asian Football Confederation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-30. Cyrchwyd 2014-06-19.
  2. "Tim Cahill". Socceroos. Football Federation Australia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-22. Cyrchwyd 15 Ionawr 2014.
  3. 3.0 3.1 "Cahill ponders court action". BBC Sport. 2002-02-14.
  4. "Shooting star: Tim Cahill". The Sydney Morning Herald. 2009-04-02.
  5. Collins, Pádraig (2010-06-10). "Ireland's loss is Socceroos' gain with Cahill". Irish Echo. Australia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-27. Cyrchwyd 2014-06-19.
  6. "Profiles — Tim Cahill". Football News. 2006-03-17. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-22. Cyrchwyd 2014-06-19.
  7. Curtis, Adrian (2002-02-14). "I will take FIFA to court, vows Cahill". London Standard. ochr yn ochr â'i frodyr Sean, oedd yn golwr, a Chris, aeth ymlaen i fod yn gapten ar Samoa
  8. "World Cup 2014: The secrets behind the players". 2014-05-31. Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. BBC Sport match report Australia 1–0 South Africa "Australia 1-0 South Africa" Check |url= value (help). 2004-03-30.
  10. "Tim Cahill becomes Australia's all-time leading goalscorer after early header against Ecuador". 2014-03-6. Unknown parameter |published= ignored (help); Check date values in: |date= (help)


Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droediwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.