Tillicoultry
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn Swydd Clackmannan, yr Alban yw Tillicoultry (Gaeleg: Tulach Cultaire). Mae ganddi boblogaeth o 5,221. Saif y pentref ar y ffordd A91 i'r dwyrain o Stirling. Fe'i lleolir rhwng Bryniau Ochil i'r gogledd ac Afon Devon i'r de. Roedd sawl pwll glo a melin wlân yn yr ardal tan ganol yr 20fed ganrif. Heddiw, mae gan y pentref lawer o dai ar gyfer cymudwyr a Chanolfan Siopa Sterling Mills.
Mae Caerdydd 521.6 km i ffwrdd o Tillicoultry ac mae Llundain yn 569 km. Y ddinas agosaf ydy Stirling sy'n 12.6 km i ffwrdd.