Tigranes Fawr

Oddi ar Wicipedia
Tigranes Fawr
Ganwyd140 CC Edit this on Wikidata
Artashat, Ayrarat, Kingdom of Armenia Edit this on Wikidata
Bu farw55 CC Edit this on Wikidata
Kingdom of Armenia Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Swyddking of Armenia Edit this on Wikidata
TadTigranes I Edit this on Wikidata
PriodCleopatra of Pontus Edit this on Wikidata
PlantArtavasdes II of Armenia, Tigranes the Younger, Ariazate Edit this on Wikidata
LlinachArtaxiad Dynasty Edit this on Wikidata
Ymerodraeth Tigranes Fawr

Brenin Armenia o 95 CC hyd 55 CC oedd Tigranes Fawr neu Tigranes II, Armeneg: Տիգրան Մեծ, Groeg: Τιγράνης ο Μέγας (tua 140 CC - 55 CC).

Roedd Tigranes yn fab neu nai i un ai Artavasdes I neu Tigranes I. Hyd pan oedd tua 40 oed, bu’n wystl yn llys Mithridates II, brenin Parthia, oedd wedi gorchfygu’r Armeniaid yn 105 CC. Wedi marwolaeth Tigranes I yn 95 CC, prynodd Tigranes ei ryddid trwy drosglwyddo tiriogaeth yn Atropatene i’r Parthiaid.

Priododd Cleopatra o Pontus, merch Mithridates VI, brenin Pontus, a gwnaeth gynghrair a Pontus. Eu cytundeb oedd fod Mithridates yn ceisio concro tiriogaethau Rhufeinig yn y gorllewin tra’r oedd Tigranes yn ymestyn ei diriogaethau yn y dwyrain. Wedi marwolaeth Mithridates II, brenin Parthia yn 88 CC, manteisiodd Tigranes ar wendid Parthia i gipio’r tiriogaethau yn Atropatene oddi wrthynt. Croesodd Afon Euphrates i ymgyrchu yn Syria yn erbyn yr Ymerodraeth Seleucaidd.

Yn 83 CC derbyniodd y Syriaid ef fel brenin. Gorfododd lawer o drigolion y tiriogaethau yr oedd wedi eu concro i symud i’w brifddinas newydd, Tigranocerta. Erbyn hyn roedd ei ymerodraeth yn ymestyn o’r Alpau Pontaidd yng ngogledd-ddwyrain Twrci heddiw hyd Mesopotamia. Ef oedd y cyntaf o frenhinoedd Armenia i fathu ei arian ei hun.

Pan orchfygwyd Mithridates, brenin Pontus, gan y Rhufeiniaid dan Lucullus ffôdd at Tigranes, ei fab-yng-nghyfraith. Mynnodd Lucullus fod Tigranes yn ildio Mithridates I Rufain, a phan wrthododd ymosododd arno. Ar 6 Hydref, 69 CC, gorchfygwyd Tigranes gan Lucullus ger Tigranocerta, ac anrheithiwyd y ddinas. Y flwyddyn wedyn bu brwydr rhwng Lucullus a byddin Tigranes a Mithridates ger Artaxata, ac er i’r Rhufeiniaid fod yn fuddugol, roedd eu colledion yn sylweddol.

Yn fuan wedyn, cymerwyd lle Lucullus fel cadfridog gan Gnaeus Pompeius Magnus. Erbyn hyn roedd mab Tigranes, hefyd o’r enw Tigranes, wedi gwrthryfela yn ei erbyn, ac wedi i’w dad orchfygu byddin a roddwyd iddo gan Phraates III. brenin Parthia, aeth at Pompeius i ofyn am gymorth yn erbyn ei dad. Yn 66 CC ymosododd Pompeius ar Armenia gyda mab Tigranes, a’i orchfygu. Ildiodd Tigranes, oedd erbyn hyn tua 75 oed, i Rufain, a gadawodd Pompeius iddo gadw rhan o’i deyrnas yn gyfnewid am 6,000 talent o arian. Bu’n teyrnasu dan awdurdod Rhufain hyd ei farwolaeth yn 55 CC.