Thornhill, Dumfries a Galloway

Oddi ar Wicipedia
Thornhill
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,660 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDumfries a Galloway Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau55.239°N 3.767°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS20000317, S19000346 Edit this on Wikidata
Cod OSNX878955 Edit this on Wikidata
Map
Am leoedd eraill o'r un enw gweler Thornhill.

Tref yn awdurdod unedol Dumfries a Galloway, yr Alban, yw Thornhill[1] (Gaeleg yr Alban: Bàrr na Driseig).[2]

Yn 2001 roedd y boblogaeth yn 1,512 gyda 85.85% o’r rheiny wedi’u geni yn yr Alban a 11.18% wedi’u geni yn Lloegr.[3]

Gwaith[golygu | golygu cod]

Yn 2001 roedd 606 mewn gwaith. Ymhlith y prif waith yn y gymuned roedd:

  • Amaeth: 4.62%
  • Cynhyrchu: 11.22%
  • Adeiladu: 8.91%
  • Mânwerthu: 18.65%
  • Twristiaeth: 5.94%
  • Eiddo: 10.23%

Cysylltiad â Chymru[golygu | golygu cod]

Yn ôl hanes teulu a grynhowyd gan ferched Syr John Rhys, a hanai o Bonterwyd a'i fam Jane Mason yn un o deulu Mason, gogledd Sir Aberteifi, ymsefydlodd dau gefnder, Lewys MacMazon a Richard Cox, porthmyn o Thornhill oedd yn arfer delio mewn defaid, ger Eisteddfa Gurig tua 1660. Lewis oedd y cyntaf â'r cyfenw i'r ardal. Dywedir hefyd fod ei gŵn o frîd gwahanol a arhosai am hir yn yr ardal a hwythau o dras Albanaidd hefyd.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 6 Mai 2022
  2. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2022-05-06 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 6 Mai 2022
  3. Gwefan Cofnodion Cenedlaethol yr Alban Archifwyd 2009-01-05 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 15/12/2012.
  4. Mary Lloyd Jones, No Mod Cons (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2014), tt.31-3.