Thomas Williams (Gwilym Morganwg)

Oddi ar Wicipedia
Thomas Williams
FfugenwGwilym Morganwg, Gwilym Morgannwg Edit this on Wikidata
Ganwyd20 Tachwedd 1778 Edit this on Wikidata
Llanddeti Edit this on Wikidata
Bu farw13 Awst 1835 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg oedd Thomas Williams (20 Tachwedd 177813 Awst 1835), a adnabyddid wrth ei enw barddol Gwilym Morganwg.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Gwilym Morganwg ym mhlwyf Llanddeti, Brycheiniog ond yn gynnar yn ei oes symudodd i Forgannwg i geisio gwaith. Bu'n byw ym mhentref Cefncoedycymer am gyfnod cyn symud i fyw yn nhref Pont-y-pŵl, Gwent. Yno dechreuodd gadw tafarn a llenydda gan wneud enw iddo'i hun yng nghylchoedd llenyddol y de.[1]

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd enghreifftiau o'i gerddi mewn sawl blodeugerdd Gymraeg ond ni chyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth tan ar ôl ei farwolaeth, a hynny gan ei fab yn 1890. Cyfrannodd i lenyddiaeth wyddonol y cyfnod yn ogystal, yn cynnwys rhan o'r gwaith daearyddol Y Parthsyllydd (1815-16), ar y cyd â John Jenkins.[1]

Mae ganddo le yn hanes Gorsedd "Dderwyddol" Iolo Morganwg hefyd. Yn 1814 cafodd ef a Taliesin Williams, mab Iolo Morganwg, eu cyflwyno i gyfrinachau'r Orsedd gan Iolo ei hun. Roedd ganddo feddwl fawr o Iolo a chyfansoddodd gywydd er cof amdano a ddisgrifir fel un "godidog" gan y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Awen y Maen Chwyf (1890)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru