Thomas Tudor

Oddi ar Wicipedia
Thomas Tudor
Ganwyd3 Gorffennaf 1785 Edit this on Wikidata
Trefynwy Edit this on Wikidata
Bu farw1885 Edit this on Wikidata
Unknown Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
TadOwen Tudor Edit this on Wikidata

Arlunydd Cymreig oedd Thomas Tudor neu Tomos Tudor (3 Gorffennaf 17851885) o Drefynwy, Sir Fynwy yn ne-ddwyrain Cymru.

Cafodd ei eni yn Nhrefynwy ar y 3 Gorffennaf 1785 ac fe'i bedyddiwyd yn Eglwys Gatholig Santes Fair yn y dref lle'r ymsefydlodd y teulu ychydig ynghynt. Roeddent wedi symud i Drefynwy ar ôl i'r tad fynd yn fethdalwr. Roedd taid Tomos, sef James Tudor Morgan yn Uchel Siryf Sir Forgannwg yn 1744.[1] Llyfrwerthwr oedd ei dad Owen Tudor ac roedd ganddo ddau fachgen a oedd yn arlunwyr da a thalentog. Creodd y tri ohonynt sgetsis a diagramau i lyfr o'r enw Historical Tour in Monmouthshire a broliwyd y llyfr gan yr Archddiacon William Coxe. Dim ond tair-ar-ddeg oed oedd Thomas ar y pryd a'i frawd yn bymtheg oed.[2]

Titlun hwyrol[3]

Rhwng 1809 a 1819, arddangoswyd gwaith y bechgyn yn yr Academi Frenhinol. Portreadau oedd y rhan fwyaf o waith Thomas ac roedd manylder ei luniau o adeiladau yn syfrdanol. Peiniodd gydag olew weithiau ond dyfrliw unlliw oedd y rhan fwyaf o'i waith.[2]

Casglodd rent ar ran Colonel Henry Morgan-Clifford yn Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy. Cododd dŷ ("Tudor House") yn Wyesham, Trefynwy ac roedd ganddo dŷ arall: "Penallt".[4] Bu farw yn 1855 a chafodd ei gladdu yn Llandidiwg.[2]

Ei waith[golygu | golygu cod]

Mae gweithiau ganddo heddiw yng nghasgliadau Tate Britain[3] ac Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, ac amgueddfeydd Cas-gwent a Threfynwy.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. London Gazette: no. 8290. p. 1. 3 Ionawr 1743. Retrieved 2012-04-06.
  2. 2.0 2.1 2.2 Kissack, Keith. Thomas Tudor - A Monmouth Artist (copi ar gael yn Amgueddfa Trefynwy).
  3. 3.0 3.1 Thomas Tudor, The Tate, adalwyd Ebrill 2012
  4. "Thomas Tudor 1785-1855". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.. 1980. http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1277425/llgc-id:1286144/llgc-id:1286167/getText. Adalwyd 12 Ebrill 2012.