Thomas Trefnant

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Esgob Henffordd ar ddiwedd y 14eg ganrif a throad y 15fed ganrif oedd Thomas Trefnant neu Thomas Trevenant (bu farw 29 Mawrth, 1404). Roedd yn Gymro o'r Gororau.

Treuliodd gyfnod fel Canon Llanelwy a Lincoln. Cafodd ei enwebu i fod yn esgob Henffordd ar 5 Mai 1389 a'i gysegru yn y swydd ar 20 Mehefin 1389, gan olynu John Gilbert. Bu farw yn y swydd ar 29 Mawrth 1404.[1] Ei olynydd oedd Robert Mascall.

Cynhaliwyd prawf llys Gwallter Brut, y Lolard o Gymro a gyhuddwyd o heresi, dan ofal Thomas Trefnant yn Henffordd yn 1390. Un o'r twrneiod ar ran yr eglwys yn yr achos oedd Adda o Frynbuga, sy'n enwog am ei Gronicl.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Fryde, Handbook of British Chronology (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1996), tud. 251.
Rhagflaenydd:
John Gilbert
Esgob Henffordd
13891404
Olynydd:
Robert Mascall