Thomas Sherlock
Oddi ar Wicipedia
Cleiigwr Seisnig a fu'n Esgob Bangor ac awdur nifer o weithiau diwinyddol oedd Thomas Sherlock (1678 - 18 Gorffennaf 1761).
Ganed ef yn Llundain yn fab i William Sherlock. Addysgwyd ef yng Ngholeg Eton a Choleg Sant Catharine, Caergrawnt. Yn 1714 daeth yn is-ganghellor Caergrawnt, ac yn 1715 yn ddeon Chichester.
Bu ganddo ran amlwg yn y Ddadl Fangoraidd, gan wrthwynebu syniadau Erastaidd Benjamin Hoadly. Dilynodd Hoadly fel Esgob Bangor yn 1728. Trosglwyddwyd ef i Salisbury yn 1734 a daeth yn Esgob Llundain yn 1748.
[golygu] Cyhoeddiadau
- The Use and Interest of Prophecy in the Several Ages of the World (1725)
- The Tryal of the Witnesses of the Resurrection of Jesus (1729)
- Pastoral Letter (1750)
- Sermons (1754-1758) mewn nifer o gyfrolau