Thomas Shankland

Oddi ar Wicipedia
Thomas Shankland
Ganwyd14 Hydref 1858 Edit this on Wikidata
Llangynin Edit this on Wikidata
Bu farw20 Chwefror 1927 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd Edit this on Wikidata

Llyfrgellydd a hanesydd oedd Thomas Shankland (14 Hydref 185820 Chwefror 1927). Roedd yn frodor o Sanclêr, Sir Gaerfyrddin. Daeth yn adanbyddus am ei waith fel llyfrgellydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac am ei ddiddordeb fel hanesydd ym mudiadau crefyddol yr 17g a'r 18g, yn enwedig y mudiadau Anghydffurfiol a'r Methodistiaid cynnar.

Ar ôl treulio cyfnod fel gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Y Rhyl a'r Wyddgrug, cafodd ei apwyntio'n llyfrgellydd cynorthwyol yn Llyfrgell Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym 1905. Mawr fu cyfraniad Shankland i dwf y llyfrgell ac enwir un o'r stafelloedd yno er ei anrhydedd. Yn rhyfedd ddigon, er i nifer o bobl ei adnabod fel "Llyfrgellydd Coleg y Prifysgol", arosodd yn llyfrgellydd cynorthwyol ar hyd ei yrfa[1]

Un o ddisgyblion Shankland oedd yr hanesydd Thomas Richards, a chafodd annogaeth a chefnogaeth ymarferol ganddo i astudio gwaith y Piwritaniaid yng Nghymru. Cyhoeddodd Shankland ei hun sawl erthygl a chyfrol ar arweinwyr crefyddol yr 17g, yn cynnwys John Miles (John Myles), Stephen Hughes a John ap John.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Thomas Richards, Rhwng y Silffoedd (Gwasg Gee, 1978).