Thomas Richards (hanesydd)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Portread gan Geraint H. Jenkins.

Hanesydd oedd Thomas Richards (1878-1962) MA, D.Litt, F.R.Hist.S. Caiff ei adnabod yn ogystal fel 'Doc Tom'. Fe'i anwyd a'i magwyd yng ngogledd Sir Aberteifi. Graddiodd, a hynny heb gyrraedd ei botensial yn ei dyb ef, o Brifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac yna cychwyn gwaith fel athro ysgol ym Maesteg. Er diben profi na wnaeth gyfiawnder ag ef ei hun yn ystod ei astudiaethau is-raddedig cofrestrodd draethawd MA ar 'Cymru a Deddf Taenu'r Efengyl 1650-3' yn 1910. Hyd ei farwolaeth yn 1962 ni ddiflasodd ar astudio hanes Cymru yn yr Ail Ganrif ar Bymtheg, y cyfnod Piwritanaidd.

Cyn gwaith arloesol Thomas Richards ar y cyfnod Piwritanaidd dim ond penodau ac ysgrifau cyffredinol ac amwys oedd wedi eu cyhoeddi ar y cyfnod. Er enghraifft wedi i Beriah Gwynfe Evans gyhoeddi ei gyfrol 'Diwygwyr Cymru' yn 1900 fe'i beirniadwyd gan yr adolygydd Thomas Shankland (Llyfrgellydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ar y pryd) am gynnwys 'Deunydd Arwynebol' a 'Chasgliadau Carlamus' am y cyfnod Piwritanaidd. Nododd Shankland yn Seren Gomer '...nid yw'r Piwritaniaid a Phiwritaniaeth wedi cael cyfiawnder na thegwch hanesyddol eto. Nid yw eu gwaith yn adnabyddus. Nid oes gennym ond hanesion rhannol, amherffaith, ac unochrog o'r cyfnod.' Thomas Richards, fe ymddengys, a ymatebodd i alwad Shankland ac dan ddylanwad Shankland hefyd y daeth Thomas Richards i barchu gwerth ffeithiau.

Hanesydd y Piwritaniaid[golygu]

Yn ystod Haf 1911 treuliodd rai wythnosau ym Mhalas Lambeth, Llundain yn darllen y 'Lambeth Augmentation Books.' Tra yn Lambeth cafodd gymorth ac arweiniad gan Lyfrgellydd Palas Lambeth ar y pryd sef Claude Jenkins a oedd yn feistr ar gynnwys y llawysgrifau dan ei ofal. Diddorol yw nodi mae ef hefyd, maes o law, fyddai cyfarwyddwr ymchwil R. Tudur Jones yn Rhydychen flynyddoedd yn ddiweddarach. Dywed Geraint H. Jenkins am Thomas Richards: 'Fel pob hanesydd gwerth ei halen yr oedd hen lawysgrifau llychlyd yn anadl einioes iddo.' Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf, 'A History of the Puritan Movement in Wales, 1639-1653' yn 1920 wedi iddi ddod yn fuddugoliaethus mewn cystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Y gyfrol yma, yn nhyb J.E. Lloyd, oedd y gyfrol gyntaf i drafod twf Piwritaniaeth yng Nghymru ar sail ffynonellau gwreiddiol swyddogol.

Cyhoeddwyd yr ail gyfrol, 'Religious Developments in Wales (1654-1662)' yn 1923, y drydedd, 'Wales under the Penal Code 1662-1687' yn 1925, y bedwaredd, 'Piwritaniaeth a Pholitics 1689-1719' yn 1927, y bumed, 'Wales under The Indulgence (1672-1675)' yn 1928 a'r chweched, 'Cymru a'r Uchel Gomisiwn, 1633-40' yn 1930. Erbyn cyhoeddi y rhai diwethaf yr oedd wedi unioni'r cam am ei radd siomedig, ennill parch fel ysgolhaig ac wedi dychwelyd i Fangor fel Prif Lyfrgellydd y Coleg. Ond fel y noda Geraint H. Jenkins; '...y ffaith syfrdanol yw fod yr holl waith ymchwil a'r rhan fwyaf o'r gwaith ysgrifennu wedi eu cyflawni tra oedd yn athro ymroddgar ac yn ŵr cyhoeddus ym Maesteg.' Yn ogystal a'r chwe cyfrol fe gyhoeddodd Thomas Richards doreth o ysgrifau yn yr un cyfnod sydd a'u swm a sylwedd gymaint a seithfed cyfrol o'i hel at ei gilydd yn nhyb Geraint H. Jenkins.

Felly beth oedd rhediad dadl Thomas Richards drwy ei gyfrolau a'i ysgrifau ar y cyfnod Piwritanaidd? Fe adnabu Geraint H. Jenkins y thema fras ganlynol trwy ei waith. Gwlad dlawd ar gyrion 'nerthoedd mawr y Diwygiad Protestannaidd' oedd Cymru heb lawer o'i phobl wedi clywed nac arfer ac athrawiaethau mawr diwygwyr megis Luther, Zwingli a Chalfin. Llais unig oedd un John Penry ac nid tan yr 1630au y daethpwyd i werthfawrogi ei alwad yn fwy cyffredinol. Roedd dylanwad Pabyddiaeth ar Gymru o hyd ac roedd ofergoeliaeth yn rhemp. Nid oedd gwybodaeth am drefn yr achub, yn ôl credo'r Apostol Paul, Credo Nicea a'r diwygiwr Calfin – hynny yw Cristnogaeth glasurol hanesyddol, yn wybyddus iawn yng Nghymru. Fodd bynnag fe ymatebodd gwŷr, a adnabuwn fel y Piwritaniaid Cymreig, i'r angen hwn. Y pennaf yn eu phlith oedd Walter Cradoc, John Myles a Vavasor Powell. Ac erbyn 1650 rhydd oedd eu cenhadaeth i'w cyd-Gymru a diolch i Ddeddf Taenu'r Efengyl (1650) roedd gan Gymru hunanlywodraeth, i bob pwrpas, dros ei materion crefyddol. Ond haf bach Mihangel yn unig oedd cyfnod Deddf y Taenu oblegid, fel y dywed Geraint H. Jenkins; 'Nychwyd y delfryd gan naws Seisnig ac estron y Werinlywodraeth' yn ystod yr Oruchafiaeth. Yn dilyn cwymp Llywodraeth y Piwritaniaid a'r Gweriniaethwyr yn 1660 ac ail gipio grym gan y Brenhinwyr a'r Eglwyswyr fe wynebodd Anghydffurfwyr flynyddoedd caled o erlid yn ystod blynyddoedd 'yr Erlid Mawr.' Cadw'n ffyddlon a pharhau i dystio yn wyneb erledigaeth fu hanes yr ymneilltuwyr hyd pasio'r Ddeddf Goddefiad yn 1689. Dyna oedd agor cyfle i'r ymneilltuwyr, unwaith yn rhagor, i ledu eu cenhadaeth a chwyddo rhengoedd heb rwystr nag erlid. Dyna yn fras rhediad cyffredinol y stori a adrodda Thomas Richards trwy ei gyfrolau.

Hanesydd manwl[golygu]

Er fod Thomas Richards yn rhoi cryn bwyslais ar ffeithiau nid oedd yn hanesydd gwbl ddi-duedd. Roedd Thomas Richards ei hun yn Brotestant Ymneilltuol ac o ganlyniad deuai'r Pabyddion dan y lach o bryd i'w gilydd. Ond gwelai fai ar lawer o arwyr ei draddodiad ef hefyd - er enghraifft fe welai Morgan Llwyd yn dipyn heipocrit am feirniadu Cromwell ond parhau i dderbyn cyflog o goffrau'r Arglwydd-Amddiffynnydd yr un pryd. O'r holl Biwritaniaid Cymreig Vavasor Powell oedd yn derbyn y parch uchaf gan Thomas Richards. Barn a ategwyd gan R. Tudur Jones maes o law.

Rhinwedd gweithiau Thomas Richards oedd y mynydd o ffeithiau a'r twr o droednodiadau manwl. Credai fod cynnwys pentwr o ffeithiau anwadadwy yn angenrheidiol fel yr esbonia R. Tudur Jones; 'Perthynai i'r ysgol honno o haneswyr a fu mor ddylanwadol genhedlaeth yn ôl – yr ysgol a roddai'r pwys trymaf ar ddarganfod a chroniclo ffeithiau hanesyddol yn hytrach nag ar eu hesbonio. Ymchwilio – nid athronyddu – oedd gwaith pennaf yr hanesydd iddo ef.'

Llenor lletchwith[golygu]

Os mae rhinwedd Thomas Richards fel hanesydd oedd ei bwyslais a'r ffeithiau anwadadwy ei wendid, a hwnnw yn un go-sylweddol, oedd ei fethiant i gyflwyno'r ffeithiau yna i'r darllenydd mewn modd ystyrlon a llenyddol. Dywedodd Michael Watts, un o brif awduron modern ar hanes Anghydffurfiaeth am gyfrolau Thomas Richards; 'The various studies by Thomas Richards... are a mine of information, all but buried under the author's hideous literary style.' Er enghraifft mae 'Wales under The Penal Code' yn agor gyda brawddeg sy'n estyn dros dair ar ddeg o linellau. Mewn amrywiol fannau ym mhob un o'i gyfrolau fe fydd paragraffau yn ymestyn dros sawl tudalen. Yn 'Religious Developments in Wales' wedi i baragraff ymestyn dros bum tudalen heb dorri mae'n cyhoeddi; 'It is time to open a new paragraph.'!

Er gwerth cyfrolau Thomas Richards fel drws at ffynonellau gwreiddiol y cyfnod Piwritanaidd, yn anffodus mae arddull ei gyfrolau i bob pwrpas wedi profi'n drech ar fyfyrwyr hanes heb sôn am ddarllenwyr cyffredin. Hel llwch mewn llyfrgelloedd y gwna ei gyfrolau bellach am ddau reswm. Yn gyntaf fel y dywed Geraint H. Jenkins; '...mae byd o wahaniaeth rhwng llunio hanes darllenadwy a llunio hanes sy'n darllen fel nofel, a'r gwir yw na fedrai Doc Tom gyflawni'r naill na'r llall yn Saesneg. Ni waeth inni wynebu'r caswir: yr oedd ei arddull Saesneg mor felltigedig o drwm nes bod darnau helaeth iawn o'i lyfrau bron yn amhosib eu darllen.' Beth am yr ail reswm fod gyfrolau Thomas Richards bellach yn hel llwch? Ers cyfnod cyhoeddi Thomas Richards yn y 1920au mae awduron llawer mwy medrus eu rhyddiaith fel Geraint H. Jenkins, J. Gwynfor Jones ac R. Tudur Jones wedi croniclo hanes y cyfnod mewn cyfrolau llawn mor awdurdodol ond eto llawer mwy darllenadwy na Thomas Richards. Dyma ddywed Geraint H. Jenkins unwaith yn rhagor; 'Gwelais fyfyrwyr yn eu dagrau yn ceisio ymgodymu â'i lyfr enwocaf, 'A History of the Puritan Movement in Wales', ac nid anghofiaf byth mo'r wên lydan a gorfoleddus ar eu hwynebau pan dosturiais wrthynt a'u cynghori i roi gwaith Richards o'r neilltu a phori yn unig yng Nghlasur R. Tudur Jones, Hanes Annibynwyr Cymru.'

Tu hwnt i'r ymchwilwyr sy'n arbenigo ar y cyfnod Piwritanaidd fe osgoir cyfrolau Thomas Richards yn llwyr bellach – a hynny yn gwbl ddealladwy! Tua diwedd ei oes cyhoeddodd ddwy gyfrol hunangofiannol, 'Atgofion Cardi' (1960) ac wedi ei farwolaeth cyhoeddwyd 'Rhagor o Atgofion Cardi' (1963). Maes o law cyhoeddwyd rhai o'i ysgrifau a'i sgyrsiau radio yn y gyfrol 'Rhwng y Silffoedd' (1978). Roedd arddull y dair gyfrol Gymraeg yma yn dra gwahanol i'w gyfrolau sychion Saesneg cymaint nes i Meic Stephens ddweud eu bont '...gyda'r deunydd darllen bywiocaf yn y Gymraeg.' Gresyn na fuasai ei arddull yn ei gyfrolau ysgolheigaidd wedi medru gwneud cyfiawnder a'i athrylithder fel ymchwiliwr.

Ffynonellau[golygu]

  • Geraint H. Jenkins: 'Doc Tom' Thomas Richards (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999)
  • Geraint H. Jenkins: Dr. Thomas Richards: Hanesydd Piwritaniaeth ac Anghudffurfiaeth Gymreig (Prifysgol Cymru, Abertawe: 1995)
  • R. Tudur Jones: "Thomas Richards – Hanesydd" yn Seren Cymru, 6 Gorffennaf 1962
  • Meic Stephens: Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1997)

Dolennau allanol[golygu]