Thomas Parry (marsiandïwr)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pencadlys EID Parry yn Chennai, India.

Marsiandïwr Cymreig oedd Thomas Parry (17681824), sydd â lle pwysig yn hanes economi Tamil Nadu yn India.

Ganed Thomas Parry yn drydydd fab Edward Parry ac Anne Vaughan, o Blas Leighton, ger Y Trallwng ym Maldwyn (Powys). Dilynodd yrfa fel marsiandïwr. Pan sylweddolodd y botensial i fusnes a marsiandïaeth yn India, aeth Parry i ddinas Madras (Chennai), De India, ar ddiwedd y 1780au. Yno sefydlodd fusnes bancio a nwyddau ar 17 Gorffennaf 1788.[1] Bychan oedd y busnes yn y dechrau, ond tyfu a wnaeth a daeth 'Parry' yn enw cyfarwydd yn Chennai. Heddiw mae'r cwmni a sefydlodd yn dal i fynd, wrth yr enw (Cwmni) EID Parry. Dyma'r cwmni (sy'n dal i redeg) ail hynaf yn India heddiw.[2]

Enwir un o ardaloedd busnes canolog mwyaf Chennai ar ôl Thomas Parry, sef Parry's Corner (Cornel Parry). Lleolir pencadlys cwmni EID Parry yno o hyd.

Cyfeiriadau [golygu]

Dolenni allanol [golygu]

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.