Thomas Lewis (AS Môn)

Oddi ar Wicipedia
Thomas Lewis
Ganwyd1821 Edit this on Wikidata
Bu farw2 Rhagfyr 1897 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
PlantHenry Lewis Edit this on Wikidata

Roedd Thomas Lewis (18212 Rhagfyr 1897) yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth Sir Fôn.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Lewis ym 1821 yn fab i Thomas Lewis, ffarmwr dan denantiaeth, o Gemaes, Ynys Môn. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Genedlaethol Llanfechell gan ymadael a'r ysgol yn bur ieuanc.

Ym 1846 priododd Laura, merch Mr Henry Hughes, Tygwyn, Llanllyfni, bu iddynt dau fab.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi ymadael a'r ysgol aeth i weithio fel prentis yng ngwaith masnacha gwenith a blawd John Elias (mab John Elias o Fôn). Ym 1838 agorodd ei gwmni blawd ei hun ym Mangor gan ddod yn un o werthwyr blawd mwyaf Cymru.[1]

Ym 1866 rhoddodd gorau i redeg ei fusnes gan fynd i deithio'r byd gan ymweld â Phalestina, Yr Aifft, Yr UDA a nifer o wledydd Ewrop. Bu yn ymweld ag ysgolion Sul a chymdeithasau capeli i ddarlithio am ei ymweliad i wledydd y Beibl gan gael ei adnabod wrth y llysenw Thomas Palestina[2]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Bu'n Aelod Seneddol am ddau dymor, rhwng 1886 a 1895, gan ymddeol oherwydd ei iechyd. Bu farw ddwy flynedd yn niweddarach ym 1897.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Richard Davies
Aelod Seneddol dros Ynys Môn
18861895
Olynydd:
Ellis Jones Ellis-Griffith

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. North Wales Express 16 Gorffennaf 1886; adalwyd 16 Hyd 2013.
  2. "Marwolaeth y cyn Aelod dros Fôn - Yr Herald Cymraeg". Daniel Rees. 1897-12-07. Cyrchwyd 2015-07-04.