Thomas Jones (1870-1955)
Oddi ar Wicipedia
Gwas sifil ac addysgydd Cymreig oedd Thomas (Tom) Jones, a elwid yn T.J. (27 Medi 1870 - 15 Hydref 1955). Gwasanaethodd fel Is-ysgrifennydd y Cabinet dan bedwar Prif Weinidog: Lloyd George, Andrew Bonar Law, Stanley Baldwin a Ramsay MacDonald.
Ganed ef yn Rhymni. Bu ganddo gysylltiad a llawer o achosion dyngarol a diwylliannol, gan gynnwys sefydlu'r cylchgrawn Welsh Outlook yn 1914 a Coleg Harlech. Ef oedd cadeirydd Gwasg Gregynog.
Daeth ei ferch, Eirene White, yn Aelod Seneddol a Gweinidog.
Cyhoeddiadau[golygu]
- A Theme with Variations (1933)
- Rhymney Memories (1938)
- Cerrig Milltir (1942)
- Leeks and Daffodils (1942)
- The Native Never Returns (1946)
- Welsh Broth (1950)
- Lloyd George (1951)
- The Gregynog Press (1954)
- A Diary with Letters 1931-1950 (1954)
- Whitehall Diaries, Vol I and II (1969)
- Whitehall Diaries, Vol III (1971)