Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Thomas Jacob Thomas)
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd Cymraeg oedd Thomas Jacob Thomas (1873 - 1945), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Sarnicol. Roedd yn un o feirdd mwyaf poblogaidd ei gyfnod ac yn epigramydd penigamp.

Ganed Sarnicol ym mhentref Capel Cynon, ger Llandysul, Ceredigion yn 1873. Magwyd y bardd ym mro Banc Siôn Cwilt a chafodd diwylliant Cymraeg a thraddodiadau gwerinol yr ardal honno ddylanwad mawr ar ei waith fel bardd. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac aeth yn ei flaen i fod yn athro ysgol yn Southampton yn ne Lloegr, Abergele ac Abertyleri, ac yn brifathro mewn ysgol ger Merthyr Tudful.

Ymddiddorai'n fawr yn nhraddodiadau a llên gwerin Cymru, a chyhoeddodd sawl cerdd boblogaidd sy'n seiliedig ar chwedlau Cymraeg. Cyhoeddodd ddeg cyfrol o farddoniaeth yn ystod ei oes gan ddod yn un o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Fenni 1913.

Mae ei gerddi poblogaidd yn tueddu i fod yn rhamantaidd a sentimentalaidd braidd, ond ei brif gyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg yw ei gerddi byr dychanol, yn enwedig y rhai a geir yn y gyfrol Blodau Drain Duon (1935), sy'n cynnwys ei epigram adnabyddus am Dic Sion Dafydd.

Cyhoeddodd hefyd gyfrol o addasiadau o chwedlau gwerin ei fro, Chwedlau Cefn Gwlad.

Llyfryddiaeth ddethol [golygu]

  • Stori Siaci'r Gwas (1906)
  • Odlau Môr a Mynydd (1912)
  • Blodau Drain Duon (Gwasg Gomer, 1935)
  • Chwedlau Cefn Gwlad (Gwasg Gee, 1944)
  • Ar Fanc Siôn Cwilt, golygwyd gan J. Tysul Davies (Gwasg Gomer, 1972). Ysgrifau a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.