T. Glynne Davies

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Thomas Glynne Davies)
T. Glynne Davies
GanwydThomas Glynne Davies Edit this on Wikidata
12 Ionawr 1926 Edit this on Wikidata
Llanrwst Edit this on Wikidata
Bu farw10 Ebrill 1988 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, darlledwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PlantGareth Glyn, Geraint Glynne Davies, Aled Glynne Edit this on Wikidata

Roedd Thomas Glynne Davies (12 Ionawr 192610 Ebrill 1988), a adnabyddir fel arfer fel T. Glynne Davies, yn fardd, llenor ac yn ddarlledwr radio a theledu.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn 64 Stryd Dinbych, Llanrwst, Sir Ddinbych.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gweithiodd ym mhwll glo Oakdale, Caerffili fel 'Bevin Boy'.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Gweithiodd fel gohebydd newyddion ar gyfer BBC Radio o 1957 a cyflwynodd y rhaglen radio poblogaidd radio programme Bore Da rhwng 1970 a 1976.

Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanrwst 1951 gyda'r gerdd 'Adfeilion' a chyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi, sef Llwybrau Pridd a Hedydd yn yr Haul. Ysgrifennodd y nofel hirfaith Marged, sy'n portreadu bywyd yn Llanrwst dros sawl cenhedlaeth, nofel arall sef Haf Creulon a chyfrol o straeon byrion Cân Serch.

Bob blwyddyn mae S4C yn cynnig Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth T.Glynne Davies, sydd werth £6,500, i gynorthwyo ysgolheigion i ddilyn cwrs ôl-raddedig yn Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd.[1]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd T Glynne Davies yn briod â Mair (1932-2016), ac roedd ganddynt bedwar mab:

Bu farw T Glynne yng Nghaerdydd yn 1988.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Haf Creulon (nofel), 1960
  • Llwybrau Pridd (cerddi cyntaf), 1961
  • Hedydd yn yr Haul, 1969
  • Cân Serch a storiau eraill, 1954
  • Yr ysgub olaf, 1971
  • Marged, Gwasg Gomer, 1974
  • Gwilym Cowlyd, 1828-1904, 1976
  • "Cerddi", 1987[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]