Thomas Erastus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Thomas Erastus

Diwiynydd o'r Swistir oedd Thomas Erastus (7 Medi, 1524 - 31 Rhagfyr, 1583). Enwyd Erastiaeth ar ei ôl.

Credir i Erastus gael ei eni yn Baden, Canton Aargau, i rieni tlawd. Astudiodd ym Mhrifysgol Basel, yna yn Bologna a Padua. Daeth yn gyfrin-gynghorydd i'r Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Frederic III.

Mewn diwinyddiaeth, roedd yn ddilynydd Zwingli. Yn 1589, cyhoeddwyd ei waith Explicatio gravissimae quaestionis utrum excommunicatio, quatenus religionem intelligentes et amplexantes, a sacramentorum usu, pro pier admissum facinus arcet, mandato natur divino, an excogitala sit ab hominibus, sy'n datgan mai'r wladwriaeth oedd a'r hawl i gosbi pechodau Ceistionogion, nid yr eglwys. Rhoddodd hyn ei enw i Erastiaeth, barn fwy cyffredinol, sef mai'r wladwriaeth a ddylai fod yn ben mewn materion eglwysig.

Llyfryddiaeth[golygu]